Cam mawr ymlaen ar gyfer amddiffynfeydd môr newydd y Mwmbwls
Mae cynigion ar gyfer amddiffynfeydd môr newydd a fydd yn helpu i amddiffyn y Mwmbwls am ddegawdau i ddod wedi cymryd cam mawr ymlaen.
Mae cais cynllunio ar gyfer y cynllun a ysgogir gan Gyngor Abertawe newydd gael ei gyflwyno i gynllunwyr lleol.
Ei nod yw amddiffyn y gymuned rhag llifogydd a llanwau cynyddol ac ailfodelu'r prom yn atyniad diogel, modern a chynhwysol i ymwelwyr.
Mae'r cynigion - a luniwyd gyda help ymgynghoriad cyhoeddus helaeth - yn dangos mwy o le i gerddwyr a beicwyr rannu'r prom yn ofalus, mesurau gwarchod coed a rhagor o gyfleoedd am chwarae ac ymlacio.
Dywed dogfen gynllunio allweddol a baratowyd gan JBA Consulting fod rhai o'r amddiffynfeydd presennol mewn cyflwr gwael ac mewn perygl o lifogydd.
Mae'n datgan: "Disgwylir i'r lefel perygl llifogydd gynyddu yn y dyfodol oherwydd y cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr.
"Mae hyn, yn ogystal â'r ffaith bod yr amddiffynfeydd presennol yn dangos arwyddion o ddirywiad yn golygu y byddai sawl eiddo yn y Mwmbwls mewn perygl o lifogydd.
"Y cynllun tymor hir yw 'dal y llinell'. Nod hyn yw cynnal a gwella'r amddiffynfeydd sy'n bodoli ar hyd eu cyfliniad presennol."
Byddai'r datblygiad arfaethedig yn cryfhau 1.2km o'r morglawdd sy'n estyn o faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth i'r llithrfa o flaen tafarn The Pilot a chynyddu uchder rhannau allweddol ohono.
Caiff golygfeydd ar draws y bae eu cynnal - a bydd y cynllun yn gwella'r prom i gynorthwyo adfywiad a thwristiaeth.
Dywed yr adroddiad, "Mae'r gwaith yn cynnwys lledaenu'r promenâd presennol i greu
llwybr troed i gerddwyr a llwybr beicio ar wahân.
"Bydd hyn yn gwella cysylltedd a hygyrchedd ac yn hybu teithio llesol cynaliadwy. Mae gwelliannau eraill i fannau cyhoeddus yn cynnwys gwella seddi, golygfeydd a chysylltedd, gyda gwell thirlunio caled a meddal.
"Bydd y rhain yn darparu gwelliannau gweledol i'r ardal, gan greu glan gynaliadwy ac atyniadol - caffaeliad i'r gymuned leol ac atyniad i ymwelwyr."
Cynhaliwyd ymgysylltiad cyhoeddus ar syniadau cychwynnol yn yr haf a chafwyd mewnbwn pellach gan y cyhoedd a sefydliadau allweddol yn ddiweddar ar ffurf proses ffurfiol o'r enw ymgynghoriad cyn cyflwyno cais.
Gall y cyhoedd fynegi eu barn yn awr ar y cais cynllunio - www.bit.ly/MSDplanapp