Cyfle i fusnesau elwa o gynllun mawr newydd ar gyfer Ffordd y Brenin
Mae gan fusnesau ledled Abertawe a'r Dinas-ranbarth cyfan gyfle i elwa o becynnau gwaith sy'n rhan o ddatblygiad mawr newydd yng nghanol y ddinas.
Cynhelir digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr ar-lein ddydd Iau 16 Rhagfyr i helpu i hysbysu busnesau cadwyni cyflenwi am gyfleoedd yn y cynllun swyddfeydd uwch-dechnoleg a gynllunnir ar gyfer safle hen glwb nos Oceana ar Ffordd y Brenin.
Bydd y digwyddiad a drefnir gan Gyngor Abertawe a Bouygues UK - prif gontractwr y cyngor ar gyfer y cynllun - yn cynnwys cyfleoedd ym mhob maes gan gynnwys dur adeiladu, cerrig nadd, celfi stryd, ceginau, rheoli gwastraff, marciau ac arwyddion ffyrdd.
Bydd gwaith adeiladu'n dechrau cyn bo hir ar y datblygiad swyddfa newydd a fydd yn cynnwys 114,00 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio hyblyg a swyddfeydd ar gyfer busnesau arloesol yn y sectorau technoleg, digidol a chreadigol.
Mae'r cynllun pum llawr a arweinir gan Gyngor Abertawe, sydd wedi'i glustnodi i'w gwblhau yn haf 2023, yn un di-garbon yn y modd y bydd yn gweithredu ac yn werth £32.6 miliwn i economi Abertawe unwaith y caiff ei orffen.
Mae'r datblygiad yn rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sy'n cael ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn. Fe'i cefnogir hefyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae sefydliadau eraill sy'n cefnogi'r digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr yn cynnwys Busnes Cymru, Gwerthwch i Gymru, Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Cyfle.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y datblygiad mawr hwn yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi pan fydd wedi'i orffen, gan helpu i greu hyd yn oed mwy o fywiogrwydd yng nghanol y ddinas a denu rhagor o ymwelwyr iddo wrth ddarparu'r math cywir o le swyddfa hyblyg o safon y mae galw mawr amdano o hyd er gwaethaf y pandemig.
"Ond, yn ogystal ag annog busnesau technoleg a digidol arloesol lleol i sefydlu eu hunain, aros a ffynnu yn Abertawe yn lle symud i rywle arall, mae'r cynllun hefyd yn bwysig i fusnesau cadwyn gyflenwi rhanbarthol oherwydd y cyfleoedd y bydd yn eu creu drwy gydol y gwaith adeiladu
"Bydd y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr sydd bellach wedi'i drefnu gyda Bouygues UK a phartneriaid eraill yn galluogi busnesau lleol o'r math hwn ddarganfod mwy am y pecynnau gwaith y trefnir y byddant ar gael wrth i ni geisio rhoi hwb i'r economi leol."
Mae pecynnau gwaith eraill a allai fod yn rhan o'r datblygiad swyddfa newydd yn cynnwys lloriau a theilsio, gwaith asiedydd arbenigol, glanhau, amddiffyn rhag tân a thirlunio caled a meddal.
Cyflwynir y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr drwy Microsoft Teams o 9am i 2pm. Gall busnesau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan archebu slotiau o 15 munud yn awr ar gyfer cyfarfodydd un i un drwy fynd i https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/bouyges-digwyddiad-rhithwir-cwrdd-ar-prynwr-cyfleoedd-ar-71-72-ffordd-y-brenin/