Busnesau'n cael eu hatgoffa o gyfleoedd cynllun newydd Ffordd y Brenin
O deilsio a lloriau i gerrig nadd a gwaith cegin, mae busnesau'n cael eu hatgoffa am y cyfle i elwa o brosiect mawr newydd ar Ffordd y Brenin yn Abertawe.
Cynhelir digwyddiad ar-lein ddydd Iau hwn (16 Rhagfyr) am gyfleoedd sy'n rhan o ddatblygiad swyddfeydd uwch-dechnoleg newydd i'w godi ar hen safle clwb nos Oceana.
Cyngor Abertawe sy'n arwain ar y cynllun, ac mae'r prif gontractwr Bouygues UK bellach wedi gosod lle caeedig ar y safle yn barod ar gyfer y gwaith adeiladu.
Mae cyfleoedd eraill ar gyfer busnesau cadwyni cyflenwi yn cynnwys dur adeiladu, celfi stryd, marciau ffyrdd, arwyddion, gwaith asiedydd arbenigol, glanhau, amddiffyn rhag tân a thirlunio.
Bydd y digwyddiad ar-lein i fusnesau'n para o 9am i 2pm drwy Microsoft Teams, gyda slotiau 15 munud ar gael i'w harchebu fel y gall busnesau dreulio amser gyda chynrychiolwyr y prosiect.
Mae sefydliadau sy'n cefnogi'r digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr yn cynnwys Cyngor Abertawe, Bouygues UK, Busnes Cymru, Gwerthwch i Gymru, Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu, Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Cyfle.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Yn ogystal â darparu lle ar gyfer 600 o swyddi yn y sectorau digidol a thechnoleg, pan fydd wedi'i gwblhau, bydd y datblygiad swyddfa newydd ar Ffordd y Brenin yn cynnig llawer o gyfleoedd i fusnesau lleol a rhanbarthol elwa drwy'r cam adeiladu.
"Mae hyn yn bwysig i'r economi leol, felly byddwn yn annog busnesau yn y meysydd a nodwyd i archebu slot yn y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr i ddarganfod mwy.
Mae'r datblygiad swyddfa newydd yn dilyn gwaith gwerth £12 miliwn i drawsnewid Ffordd y Brenin yn amgylchedd llawer mwy pleserus a gwyrdd wrth i'n cynlluniau i adfywio canol y ddinas symud yn eu blaenau'n gynt."
Mae'r cynllun swyddfa pum llawr, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn haf 2023, yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3bn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Bydd y cynllun y disgwylir iddo fod yn ddi-garbon ac yn werth £32.7 miliwn i economi Abertawe, yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol ar gyfer cyfleoedd cydweithio hyblyg a swyddfeydd.
Dylai busnesau fynd i'r dudalen hon i gadw lle yn y digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr.