Digwyddiad treftadaeth Nadoligaidd i hybu busnesau yn Nhreforys
Bydd preswylwyr a busnesau Treforys yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn digwyddiad Nadolig ar thema Oes Fictoria.
Gwahoddir siopau i addurno'u ffenestri yn arddull y cyfnod, trefnir adloniant ar gyfer Woodfield Street, y brif stryd siopa, a gofynnir i breswylwyr siopa'n lleol. Mae staff busnes yn cael eu hannog i wisgo fel y Fictoriaid.
Trefnir y digwyddiad - a gynhelir ar 26 Tachwedd - gan Gyngor Abertawe. Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Dyma'r cyfle i ardal hanesyddol gymryd cam mawr ymlaen - drwy gymryd cam lliwgar yn ôl.
"Mae'r digwyddiad - y diwrnod ar ôl achlysur blynyddol gorymdaith a chynnau goleuadau'r Nadolig yn Nhreforys - yn helpu i dynnu sylw at siopa'n lleol."
Mae'r cynlluniau ar gyfer 26 Tachwedd yn cynnwys stondinau, adloniant i blant, cerddoriaeth ac arddangosfeydd treftadaeth. Mae'n dilyn digwyddiad agoriadol y llynedd yn ystod cyfnod cyn y Nadolig.
Mae'r cyngor yn adfywio ardal eang o Gwm Tawe Isaf, gan gynnwys hen Waith Copr yr Hafod-Morfa, pontynau ar lan yr afon ger y gwaith copr a chyrhaeddiad arfaethedig y cwmni o Seland Newydd, Skyline.
Diwrnod Fictoraidd Treforys 10am-3pm, dydd Sadwrn 26 Tachwedd. E-bostiwch nathan.james@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 636992.
Llun: Digwyddiad Nadolig Fictoraidd y llynedd yn Nhreforys