Bin môr yn cael ei dreialu i gadw dŵr y marina'n lân
Mae bin môr ym Marina Abertawe'n helpu i wella glanweithdra'r dŵr yno drwy waredu sbwriel a malurion.


Mae Cyngor Abertawe a'r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus yn cydweithio i dreialu'r dechnoleg.
Mae biniau môr yn ddyfeisiau siâp bwced sy'n codi ac yn disgyn gyda'r llanw, gan gasglu sbwriel a malurion o'r dŵr.
Mae dŵr yn cael ei dynnu gan bwmp drwy fag sy'n dal y gwastraff.
Mae dŵr glân yn cael ei bwmpio allan wrth i sbwriel a malurion gael eu dal yn ddiogel er mwyn eu gwaredu'n briodol.
Mae'r bin môr ym Marina Abertawe'n gweithio ddydd a nos a gall gasglu hyd at 30 litr o wastraff.
Meddai'r Cyng. Cyril Anderson, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wasanaethau Cymunedol, "Byddai'n well o lawer pe na bai pobl yn taflu eu sbwriel yn anghyfrifol yn y lle cyntaf, ond mae'r bin môr yn dangos ein bod yn parhau i arloesi yn ein holl waith i gadw ein dinas a'n dyfrffyrdd mor lân â phosib.
"Rydym wrth ein boddau bod Cadwch Gymru'n Daclus yn cydweithio â ni i gyflwyno'r dechnoleg hon a byddwn yn parhau i archwilio ei heffeithiolrwydd wrth i'r cynllun prawf barhau.
"Mae ymchwil yn dangos bod oddeutu 80% o'r sbwriel yn y môr yn deillio o ffynonellau ar y tir, felly mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth posib i amddiffyn amgylchedd y môr ac annog pobl i ddefnyddio biniau neu fynd â'u gwastraff adref."
Mae'r fenter yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae'r bin môr yn cael ei fonitro'n rheolaidd i ymchwilio i'r hyn y mae'n ei gasglu a gwirio a oes unrhyw effeithiau anfwriadol ar fywyd gwyllt.