Menter Heneiddio'n Dda bellach yn cefnogi 500 o bobl yr wythnos
Ar gyfartaledd, mae mwy na 500 o bobl 50 oed ac yn hŷn yn ymuno mewn gweithgareddau am ddim a rhad a gynhelir gan ein tîm Heneiddio'n Dda bob wythnos, gan gynnwys ein teithiau cerdded ar y marina ar fore dydd Iau.

Mae rhywbeth i'w wneud bob diwrnod yn ystod yr wythnos, gan gynnwys boules, ffilmiau yn y prynhawn, bowlio, côr, cwis a chyfarfodydd cymdeithasol am baned a sgwrs.
Y nod yw annog pobl hŷn i fynd yma ac acw, cymdeithasu a lleihau teimladau o fod yn unig ac yn ynysig.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru i'n cylchlythyr yma: https://www.abertawe.gov.uk/dros50