Toglo gwelededd dewislen symudol

Penodi Mark John yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Sector Preifat Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru

Mae'n bleser gan Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru gyhoeddi penodiad Mark John, cyd-sylfaenydd Tramshed Tech, yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Sector Preifat Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru.

Mark John Tramshed Tech

Mark John Tramshed Tech

Cafodd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru ei sefydlu yn ffurfiol yn 2022 i gryfhau ffyniant economaidd ledled y rhanbarth. Mae'n cynnwys Arweinwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Abertawe, yn ogystal ag uwch-gynrychiolwyr o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Bydd y pwyllgor yn adeiladu ar sylfeini cryf o ran gweithio rhanbarthol sydd eisoes ar waith yn ne-orllewin Cymru yn ogystal â galluogi dull unedig, rhanbarthol o ran sectorau allweddol gan gynnwys trafnidiaeth, ynni a datblygu economaidd er budd pobl leol, busnesau ac ymwelwyr.

Fel Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol Sector Preifat, bydd Mark yn arwain tîm o arbenigwyr deinamig yn y sector preifat a fydd yn gweithio'n agos gydag arweinwyr rhanbarthol i sicrhau bod llais busnes yn ganolog wrth wneud penderfyniadau a chynllunio yn y dyfodol.

Mae Mark yn dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl o ran arweinyddiaeth ym maes busnes a chydweithredu rhanbarthol ledled Cymru a'r DU ac mae ganddo hanes amlwg o weithio ar lefel strategol uwch yn y sector digidol ar-lein, y cyfryngau a thechnoleg.

Ef yw cyd-sylfaenydd Tramshed Tech, busnes blaenllaw yng Nghymru a rhwydwaith hybiau arloesi sy'n cysylltu cwmnïau technoleg, digidol a chreadigol sy'n dod i'r amlwg â'r gweithleoedd, cymorth twf busnes a hyfforddiant sgiliau sydd eu hangen arnynt i ehangu a llwyddo.

Mae Tramshed Tech, sy'n gweithredu ar draws pum lleoliad strategol yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a'r Barri, yn darparu mannau cydweithio hyblyg, swyddfeydd preifat a mannau cyfarfod a digwyddiadau o'r radd flaenaf. Mae'r sefydliad yn darparu rhaglenni twf busnes cynhwysfawr a gweithdai hyfforddiant sgiliau mewn partneriaeth â chyrff cyllido blaenllaw y DU, gan gynnwys Banc Busnes Prydain, Barclays Eagle Labs, Llywodraeth Cymru a nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae ei benodiad yn gam sylweddol ymlaen i gryfhau'r bartneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn sicrhau bod de-orllewin Cymru yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn gydnerth mewn tirwedd economaidd sy'n newid yn gyflym.

Dywedodd Mark John, "Ar ôl agor ein lleoliad newydd ar gyfer Tramshed Tech yn ddiweddar yn y Palace Theatreeiconig yn Abertawe, mae'n anrhydedd gennyf gael fy mhenodi'n Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Sector Preifat Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, a hynny ar adeg mor dyngedfennol i dde-orllewin Cymru. Mae gan y rhanbarth botensial enfawr, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar draws ystod o sectorau i hyrwyddo arloesedd, denu buddsoddiad, a chefnogi twf cynaliadwy. Fel bwrdd ymgynghorol arbenigol, rydym yn anelu at ddarparu mewnwelediad strategol wrth gefnogi twf y rhanbarth, i ddod yn fwy ffyniannus, yn fwy gwyrdd ac yn fwy cysylltiedig yn y blynyddoedd i ddod."

Ychwanegodd Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, y Cynghorydd Rob Stewart, "Mae penodiad Mark yn dangos cam sylweddol wrth gryfhau ymrwymiad y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i weithio ar y cyd rhwng y sector cyhoeddus a phreifat. Bydd ei arweinyddiaeth yn amhrisiadwy a bydd yn helpu i sicrhau bod busnesau a chymunedau de-orllewin Cymru yn ffynnu mewn tirwedd economaidd sy'n newid yn gyflym."

I gael rhagor o wybodaeth am Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, ewch i www.cjcsouthwest.wales neu cysylltwch â Kristy Tillman drwy anfon neges e-bost at kristy.tillman@abertawe.gov.uk 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Gorffenaf 2025