Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwobr bwysig yn cydnabod gwelliannau i'r farchnad

Mae rhaglen wella bwysig a pharhaus ym marchnad dan do'r ddinas wedi arwain at gydnabod Cyngor Abertawe mewn cynllun nodedig ar draws y DU.

Swansea Market garden

Swansea Market garden

Gan guro cystadleuaeth o bob cwr o'r wlad, enillodd y cyngor gategori'r fenter fasnacheiddio ac entrepreneuriaeth orau yng Ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) 2022 a gynhaliwyd yn Arena Abertawe. 

Mae gwelliannau diweddar ym Marchnad Abertawe, a gynhelir gan y cyngor, yn cynnwys cyflwyno cyfleuster a thoiledau Changing Places sydd bellach yn cael eu defnyddio gan oddeutu 3,000 o gwsmeriaid yr wythnos.

Mae ardal gardd y farchnad sy'n hygyrch i bawb hefyd wedi'i datblygu yng nghanol yr atyniad, gan greu lle y gellir ei ddefnyddio ar gyfer eistedd, bwyta, gweithio, digwyddiadau, arddangosfeydd ac arddangosiadau coginio.

Mae gardd y farchnad sy'n cynnwys dros 170 o blanhigion, man ailgylchu a chyfleusterau i fabanod, plant a chŵn, wedi denu tua 1,200 o ddefnyddwyr yr wythnos ers iddi agor gyntaf ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae'r cyngor hefyd wedi rhoi cyfleusterau masnachu achlysurol ar waith yn y farchnad i gefnogi darpar fasnachwyr newydd.

Meddai'r Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet - Gwasanaeth a Pherfformiad Corfforaethol (Y Ddirprwy Arweinydd): "Mae Marchnad Abertawe wedi bod yn rhan ganolog o fywyd Abertawe ers blynyddoedd lawer, a bydd yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y dyfodol fel rhan o drawsnewidiad gwerth £1 biliwn canol y ddinas.

"Mae cynlluniau diweddar fel y toiledau newydd i gwsmeriaid, gardd y farchnad a'r cyfleusterau masnachu achlysurol yn cefnogi entrepreneuriaeth wrth ddenu rhagor o ymwelwyr i'n marchnad a gwariant ynddi, sy'n helpu i gyflymu adferiad economaidd ein dinas o'r pandemig.

"Mae derbyn gwobr APSE am y fenter fasnacheiddio ac entrepreneuriaeth orau yn glod i waith staff a masnachwyr rhagorol ein marchnad sy'n parhau i wneud cymaint i godi proffil y farchnad ledled y DU a thu hwnt.

"Clustnodir gwelliannau pellach hefyd yn y farchnad yn y blynyddoedd i ddod i greu profiad masnachu ac ymweld gwell byth."

Cafodd cynllun siop Trysorau'r Tip ei gynnwys ar y rhestr fer yn yr un categori gwobrau APSE â'r farchnad.

Mae categorïau eraill lle cafodd y cyngor ei gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer cyngor y flwyddyn yn cynnwys; menter y gweithlu gorau; 

Roedd timau'r cyngor yn y gwasanaethau tai, adeiladu ac adeiladau; glanhau strydoedd a'r strydlun; a'r gwasanaethau mynwentydd a'r amlosgfa hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y timau gwasanaethau gorau.