Cyfle i ddweud eich dweud am ddyluniadau newydd ar gyfer mynedfeydd Marchnad Abertawe
Gall siopwyr Abertawe ddweud eu dweud am gynlluniau i wella mynedfeydd allanol Marchnad Abertawe.

Gofynnir i fasnachwyr y farchnad a rhanddeiliaid allweddol eraill am eu barn hefyd wrth i Gyngor Abertawe lansio ymgynghoriad cyhoeddus.
Cesglir barn pawb a bydd yn helpu i gwblhau cynlluniau wrth i fynedfeydd Stryd Rhydychen, Union Street a Whitewalls gael eu hailwampio a'i moderneiddio.
Meddai Aelod y Cabinet a'r Cyd-ddirprwy Arweinydd David Hopkins, "Rydym yn cynllunio mynedfeydd mwy steilus, mwy amlwg a bywiog i ddenu cwsmeriaid a helpu masnachwyr i gyflwyno gwasanaeth gwych.
"Mae gennym dri opsiwn dylunio i'r cyhoedd ddewis ohonynt: mae pob un yn ceisio bod yn feiddgar ac yn greadigol, yn loyw, yn ddeniadol, yn hygyrch ac yn groesawgar.
"Rwy'n annog pawb â diddordeb yng nghanol y ddinas a'r farchnad i ddweud eu dweud yn ein hymgynghoriad."
Gall pobl fynegi eu barn mewn sawl ffordd.
- Lansiwyd arolwg ar-lein heddiw (sylwer: dydd Llun 10 Chwefror) ac mae ar agor tan 23:59 nos Sul 2 Mawrth - www.abertawe.gov.uk/dweudeichdweud.
- Mae ardal Cyfle i Ddweud eich Dweud, lle bydd copïau papur o'r arolwg ar gael, wrth stondin masnachu achlysurol y farchnad drws nesaf i'r rotwnda gocos tan 1 Mawrth. Gellir gwneud cais am gopïau papur hefyd drwy e-bost CityCentreManagement@abertawe.gov.uk.
- Bydd aelodau o dîm y prosiect wrth law i glywed barn bobl wyneb yn wyneb ddydd Sadwrn 22 Chwefror, o 10.30am i 2.30pm yng Ngardd y Farchnad.
Caiff yr holl adborth ei asesu i ddarganfod pa ddyluniad sy'n cael ei ffafrio ac i wneud newidiadau priodol lle bo'n ymarferol.
Yna bydd y dyluniadau'n destun proses gynllunio ffurfiol a darperir diweddariadau am y prosiect ar wefan y farchnad - www.swanseaindoormarket.co.uk