Mwy o gartrefi i deuluoedd a gweithwyr canol y ddinas
Disgwylir i gasgliad newydd o gartrefi deniadol yng nghanol y ddinas agor ar gyfer teuluoedd a gweithwyr canol y ddinas - ac mae rhagor i ddod.
Bydd y cartrefi diweddaraf ar gael yn Market Lofts ar gornel Stryd Rhydychen a Portland Street yn Abertawe, uwchben hen siop gardiau cyfarch.
Mae uned y siop wedi'i hadnewyddu a disgwylir iddi ailagor eleni fel safle canol y ddinas ar gyfer busnes adnabyddedig.
Cafodd yr adeilad ei gaffael yn ddiweddar gan y cwmni Oxford Portland o Abertawe a dechreuodd y gwaith trawsnewid y llynedd.
Disgwylir y bydd 11 o fflatiau - gydag un, dwy neu dair ystafell wely a chyda drysau Ffrengig a balconïau Juliet - ar gael i denantiaid preswyl erbyn diwedd y mis nesaf.
Mae cyfarwyddwyr Oxford Portland, Peter Loosmore a Kevin Roper - y mae'r ddau ohonynt yn dod o Abertawe - yn gobeithio y bydd y gwaith dodrefnu'r uned fasnachol ar y llawr gwaelod sydd wedi cael ei osod yn dechrau'n fuan.
Ar yr un pryd, maent yn dechrau gwaith ar 10 o gartrefi tebyg drws nesaf, yn hen adeilad siop Next sef lleoliad Shoezone ar hyn o bryd, a fydd yn aros yno.
Cefnogir dau gam Market Lofts gan Gyngor Abertawe trwy gynllun Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Meddai Mr Loosemore, y mae ei lwyddiannau datblygu'n cynnwys adeilad preswyl a masnachol King's Building ar Gylch Ffordd y Brenin, "Mae'n wych gweld pobl yn mwynhau byw yng nghanol dinas Abertawe."
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd defnydd newydd cyffrous yr adeilad yn rhoi bywyd newydd i ardal hollbwysig yng nghanol y ddinas."
Meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, "Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi'n darparu cefnogaeth amhrisiadwy ar draws Abertawe i adnewyddu a rhoi bywyd newydd i adeiladau segur yng nghanol y ddinas."
Mae'r cartrefi newydd yn Market Lofts ymysg llawer o gartrefi sy'n cael eu creu yng nghanol y ddinas gan ddatblygwyr y sector preifat ar gyfer teuluoedd a gweithwyr.
Maent yn rhan o waith adfywio'r ddinas gwerth £1 biliwn dan arweiniad y cyngor.
Llun: Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, dde, a'r datblygwr Peter Loosmore.