Toglo gwelededd dewislen symudol

Masnachwyr y farchnad yn ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ailgylchu

​​​​​​​Mae masnachwyr y farchnad yn cynnig gwasanaeth newydd am ddim - drwy ddarparu bagiau a sachau ailgylchu Cyngor Abertawe i gwsmeriaid.

Wayne Holmes

Wayne Holmes

Mae gan ddwy stondin ym Marchnad Abertawe bellach gyflenwadau o'r sachau gwyrdd a'r bagiau gwastraff bwyd y gall siopwyr yng nghanol y ddinas eu casglu am ddim.

Mae siop nwyddau cartref Market Spares a siop goffi Storm in a Teacup eisoes yn dosbarthu cannoedd o'r sachau/bagiau bob wythnos.

Maent yn ymuno â lleoliadau eraill o amgylch y ddinas sy'n cynnig gwasanaeth tebyg, gan gynnwys swyddfeydd y cyngor, siopau cymdogaeth, swyddfeydd post, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

Meddai Wayne Holmes o Market Spares, "Roedden ni'n meddwl y byddai hwn yn syniad gwych, rhywbeth sy'n arbennig o ddefnyddiol i'r rheini sy'n mwynhau siopa yn y farchnad. Mae llawer o bobl bellach yn casglu'r rholiau o fagiau gennym ni - maen nhw'n ei chael hi'n hawdd iawn."

Meddai Ian Curtis o Storm in a Teacup, "Mae pobl yn gwerthfawrogi ein bod yn cadw stoc o sachau a bagiau ailgylchu - mae ein gwasanaeth newydd yn profi'n boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid ac mae'r cyngor yn ychwanegu at ein cyflenwadau'n rheolaidd."

Meddai Aelod y Cabinet a Chyd-ddirprwy Arweinydd y cyngor,David Hopkins, "Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn gwneud y farchnad hyd yn oed yn fwy poblogaidd; mae ardal cyfarfod a bwyta Gardd y Farchnad yn fenter newydd lwyddiannus arall."

Meddai cyd-Aelod y Cabinet,Cyril Anderson, "Rwy'n diolch i fasnachwyr y farchnad sydd bellach yn dosbarthu'n sachau a'n bagiau ailgylchu - mae'n wasanaeth cyhoeddus gwych sy'n helpu i wneud ailgylchu mor hygyrch â phosib i bawb."

Mae preswylwyr yn mynd â'r sachau a'r bagiau adref, yn eu llenwi â phapur, tuniau a gwydr diangen ac yna cânt eu casglu gan staff ailgylchu'r cyngor mewn rhaglen hen sefydledig o gasgliadau ymyl y ffordd wythnosol.

Rhagor o wybodaeth:

Llun: Wayne Holmes o stondin Market Spares Marchnad Abertawe