Hwyl cyfryngau cymdeithasol yn rhoi hwb i fusnes yn y farchnad
Masnachwyr ym Marchnad Abertawe yw sêr diweddaraf TikTok.


Mae fideos sy'n cynnwys ystod eang ohonynt, sy'n cynnwys gwerthwyr pysgod, cigyddion a gwerthwyr llysiau, wedi'u gwylio 1.1 miliwn o weithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r fideos hyn yn eu tro wedi denu cwsmeriaid newydd i'r lleoliad poblogaidd.
Meddai Wayne Holmes, cadeirydd Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad Abertawe, "Mae'r fideos yn dangos bod gan y farchnad lawer o fasnachwyr gwych sy'n helpu i roi profiad gwych i filoedd o gwsmeriaid."
Dywedodd Lewis James o The Powder Room, un o stondinau niferus y farchnad, "Mae llawer o bobl yn gweld y fideos ar TikTok ac yn dod i mewn i fwynhau siopa gyda ni ac yn y stondinau eraill."
Mae'r lleoliad, a enwyd yn farchnad dan do fawr orau Prydain y llynedd, yn cael ei reoli gan eich cyngor sy'n parhau i wneud gwelliannau sylweddol yno. Mae'n nodwedd allweddol o waith adfywio'r ddinas gwerth £1 biliwn dan arweiniad y cyngor.
Meddai Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor, David Hopkins, "Mae fideos y masnachwyr ar TikTok yn wych. Maen nhw'n llawn hwyl ac yn dangos y cysylltiad personol y maen nhw i gyd yn ei ychwanegu at ganol y ddinas."
Mae'r fideos yn cael eu creu gan asiantaeth greadigol reTHINK PR & Marketing o Abertawe.
Os oes gennych gyfrif TikTok, gallwch wylio'r fideos drwy ddilyn @swansea.market.
Llun: Staff a masnachwyr y farchnad yn dawnsio ar gyfer TikTok.