Marchnad Abertawe
Newyddion gwych gan Farchnad Abertawe - mae gwaith ar fin dechrau ar y mynedfeydd newydd.


Helpodd deiliaid stondinau a siopwyr i ddewis y dyluniadau lliwgar newydd ac mae caniatâd cynllunio ar waith.
Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn y gwanwyn a bydd eich marchnad arobryn yn parhau i fod ar agor ac yn hygyrch yn ystod y broses.
Bydd y canopïau copr newydd yn adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol Abertawe.
Bydd goleuadau, lloriau, arwyddion a nodweddion diogelwch newydd.
Bydd y mynedfeydd newydd, mwy gweladwy a lliwgar yn helpu i sicrhau dyfodol disglair ar gyfer lleoliad gwych, gan ddenu cwsmeriaid newydd a helpu masnachwyr i barhau i ddarparu gwasanaeth gwych.