Cyllid yn hanfodol yn ystod 'cyfnodau heriol', meddai elusen cymorth bwyd
Yn ôl elusen sy'n darparu cyngor a chefnogaeth a phrydau cartref brys i bobl sy'n agored i niwed yn Abertawe, mae cyllid gan Gyngor Abertawe wedi bod yn hanfodol dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae elusen Matthew's House ar y Stryd Fawr wedi derbyn help er mwyn darparu cyfarpar ar gyfer ei chegin ac wrth gynnal ei rhaglenni bwyd.
Mae rownd newydd o gyllid bellach ar gael fel rhan o becyn cymorth mwyaf erioed y Cyngor i helpu pobl ifanc, teuluoedd a phreswylwyr hŷn fel rhan o'r ymgyrch 'Yma i Chi y Gaeaf hwn'.
Mae bron £650,000 ar gael i gefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd gyda chostau'r Nadolig, gwyliau'r ysgol neu'r rhai sy'n teimlo'n unig neu'n ynysig.
Mae ceisiadau bellach ar agor i elusennau, grwpiau cymunedol a chlybiau wneud cais am grantiau os ydynt yn rhedeg unrhyw un o'r cynlluniau canlynol:
- Bwyd am ddim i ddisgyblion yn ystod gwyliau'r Nadolig a gwyliau hanner tymor mis Chwefror.
- Lleoedd Llesol Abertawe sy'n darparu mannau cynnes a chroesawgar i bobl ddod i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
- Cymorth Bwyd Uniongyrchol drwy fanciau bwyd a mentrau cymunedol ac elusennol eraill sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd.
- Gweithgareddau i bobl ifanc a theuluoedd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
- Gweithgareddau i bobl hŷn yn ystod y gaeaf.
Meddai Thom Lynch, Rheolwr Prosiect Matthew's House, "Mae'r cyllid hwn yn wych, mae'n grant sy'n cael ei roi ar waith yn gyflym, sy'n ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfnodau heriol hyn.
"Mae grwpiau gwych eraill y mae angen y math hwn o gymorth arnynt i gefnogi'r bobl y mae gwir angen help arnynt."
Gall sefydliadau gyflwyno cais drwy fynd i: https://www.abertawe.gov.uk/GrantGaeafLlawnLles2024
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Mercher 20 Tachwedd.