Preswylwyr yn croesawu Prif Weinidog Cymru i Le Llesol Abertawe
Mae un o Leoedd Llesol Abertawe sy'n cael ei ddefnyddio fel rhywle i gael sgwrs, paned o de, darn o deisen a chwarae gemau, wedi croesawu rhai gwesteion arbennig iawn.


Bob dydd Iau rhwng 1pm a 3pm, mae preswylwyr yn dod ynghyd yng Nghanolfan Gymunedol Mayhill i gymdeithasu a chael sgwrs, ac mae gwahoddiad i unrhyw un alw heibio.
Eglwys Lifepoint sy'n cynnal y sesiwn ac mae'n un o 80 o Leoedd Llesol Abertawe sydd wedi derbyn cyllid y gaeaf hwn i'w helpu i barhau ac i ehangu eu darpariaeth.
Mae Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r lleoedd hyn, a heddiw daeth Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, ac Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, i gwrdd â'r gwirfoddolwyr a'r defnyddwyr gwasanaeth.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Roedd yn wych cwrdd â phreswylwyr yn y ganolfan gymunedol i brofi'r awyrgylch croesawgar ac i glywed pa mor werthfawr yw'r Lle Llesol hwn i bobl Abertawe.
"Dyma un o 80 o rwydweithiau sy'n cael eu hariannu ar draws ein cymunedau yn Abertawe ac rydym yn ddiolchgar iawn i'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.
"Y gaeaf hwn, mae Cyngor Abertawe wedi llunio ei becyn cymorth mwyaf erioed ar gyfer preswylwyr, gan fuddsoddi mwy na £650,000 yn ein hymgyrch #YmaIChiYGaeafHwn.
"Mae hefyd wedi derbyn cymorth ariannol ar gyfer banciau bwyd a chymorth bwyd brys arall, prydau ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed yn ystod gwyliau'r ysgol, gweithgareddau cymorthdaledig ac am ddim ar gyfer pobl ifanc a phobl hŷn ac wedi helpu mwy na 1,000 o deuluoedd ac unigolion a oedd yn ei chael hi'n anodd gyda chostau'r Nadolig.
"Mae degau ar filoedd o bobl wedi manteisio ar y cynnig bysus am ddim dros y 19 o ddiwrnodau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac rydym wedi cynnal ein haddewid bod gwely ar gael bob amser i unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref."