Artistiaid yn coffáu'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19 yn Abertawe
Mae Cyngor Abertawe wedi comisiynu dau artist clodfawr o Gymru i greu cofeb barhaol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan bandemig COVID-19.
Cyhoeddodd y cyngor ei benderfyniad i benodi Catrin Jones ac Angharad Pearce Jones ar y cyd ar drothwy Diwrnod o Fyfyrdod COVID-19 ar 9 Mawrth.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae effeithiau COVID yn rhan o'n bywydau hyd heddiw.
"Gwnaethom addo i'r rhai yn Abertawe yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig y byddwn yn eu hanrhydeddu ac yn eu cofio.
"Bydd y gofeb yn ganolbwynt parhaol i gydnabod y rhai yr effeithiwyd arnynt ac yn rhywle i gofio ac i fyfyrio ar yr undod a ysbrydolwyd gan ein profiad cyfunol a'n gobaith ar gyfer y dyfodol."
Meddai, "Bydd y gofeb yn cael ei chreu gan leisiau'r rhai sy'n cael eu cynrychioli ganddi. Drwy ymgysylltu â'r gymuned, rydym am sicrhau bod y deyrnged hon yn adlewyrchu profiadau, gwydnwch ac atgofion Abertawe."
Meddai Elliott King, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant a Chydraddoldeb, "Ni fyddwn byth yn anghofio'r bobl hynny a fu farw, na'u teuluoedd. Mae gan bob un ohonom ein stori ein hunain ac atgofion o dristwch, cydberthynas a gobaith, a'n nod yw y bydd hyn oll yn cael ei adlewyrchu mewn cofeb deimladwy sy'n ein huno."
Penodwyd Catrin ac Angharad yn dilyn proses ymgeisio agored a oedd yn gwahodd artistiaid o'r DU i gymryd rhan.
Maent yn ymwybodol o ba effaith y cafodd COVID ar gymdeithas, a'r ffordd y mae'n parhau i gael effaith arni, ar ffurf salwch COVID hir a phlant a phobl ifanc mewn addysg. Y bwriad yw y bydd eu comisiwn yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned er mwyn creu naratif hollgynhwysol.
Meddai Catrin, "Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n gilydd i gyflwyno darn o gelf gyhoeddus yn Abertawe sy'n ystyrlon ac yn deimladwy."