Mae rhagor o gymorth ar gyfer rhwydwaith Siediau Dynion bellach ar gael
Mae grantiau ar gael unwaith eto i gefnogi rhwydwaith gynyddol Abertawe o Siediau Dynion.


Mannau cymunedol yw'r rhain, lle gall dynion a menywod o bob cefndir gwrdd, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau'r sied.
Hyd heddiw mae Cyngor Abertawe wedi buddsoddi dros £100,000 i gefnogi'r rhwydwaith gyda nifer y siediau'n cynyddu o ffigurau sengl i dros 20 mewn pedair blynedd yn unig.
Mae £25,000 pellach ar gael eleni a gall grwpiau bellach wneud cais trwy fynd i www.abertawe.gov.uk/cymorthAriannolSiediauDynion. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Sul 8 Mehefin.
Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer agweddau cyfalaf a refeniw prosiectau ac mae'r grantiau'n agored i grwpiau newydd a'r rheini sydd wedi cael cymorth yn y gorffennol.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Mae Siediau Dynion yn cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd a lles ac wrth leihau unigedd cymdeithasol trwy ddefnyddio'r sgiliau a'r profiad sy'n bodoli yn ein cymunedau.
"Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â rhai o'r grwpiau hyn yn Abertawe i weld yr effaith drawiadol maent yn ei chael ar y rheini sy'n rhan ohonynt, dynion a menywod."
Does dim isafswm neu uchafswm wedi'i osod ar gyfer ceisiadau, ond rhagwelir y bydd grantiau cyfartalog gwerth hyd at £1,200.
E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os ydych chi am drafod eich cais cyn ei gyflwyno neu os ydych chi am wneud cais am swm sy'n fwy na'r ffigur awgrymedig.