Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth Iechyd Meddwl i breswylwyr sy'n wynebu anawsterau

Mae cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol ar gael i filoedd o breswylwyr, aelwydydd a theuluoedd yn Abertawe sydd efallai'n wynebu anawsterau emosiynol o ganlyniad i'r argyfwng costau byw.

Swansea at night

Swansea at night

Mae gwefan costau byw popeth dan yr unto newydd a luniwyd gan Gyngor Abertawe yn cynnwys adran ar iechyd meddwl sy'n gweithredu fel gwasanaeth cyfeirio at sefydliadau sy'n darparu help arbenigol.

Aeth staff o nifer o dimau'r cyngor i ddigwyddiad hefyd yn gynharach yr wythnos hon i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng yr argyfwng costau byw ac iechyd meddwl pobl, gan bwysleisio'r angen i drefnu bod gwybodaeth a chyngor ynghylch gofalu am les emosiynol ar gael i gynifer o bobl â phosib.

Meddai'r Cynghorydd Alyson Pugh, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, "Mae'r argyfwng costau byw yn golygu y bydd llawer o bobl yn Abertawe'n meddwl tybed sut byddant yn gallu cael deupen llinyn ynghyd, ond rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y mae'r pryderon hyn yn ei chael ar iechyd meddwl pobl - yn enwedig wrth i'r gaeaf ddod.

"Fel cyngor, rydym yma i Abertawe.  Yn ogystal â'r miloedd lawer o daliadau tanwydd gaeaf rydym yn eu prosesu i bobl leol bob wythnos, rydym hefyd wedi sefydlu gwedudalen iechyd meddwl ddynodedig ar ein gwefan costau byw newydd i unrhyw un y mae angen ei gyfeirio at ffynonellau cyngor ac arweiniad arbenigol.

"Mae llawer o sefydliadau yn Abertawe wrth law i helpu, o'r gwasanaeth iechyd i'r trydydd sector, felly byddem yn annog unrhyw un y mae angen cefnogaeth arno i archwilio'r help sydd ar gael."

Mae gan y cyngor hefyd dîm o Gydlynwyr Ardaloedd Lleol sy'n mynd o gwmpas y lle yn Abertawe, gan helpu cymunedau a phobl o bob oed i oresgyn heriau fel unigrwydd a'u cyfeirio at y grwpiau, y gweithgareddau a'r gefnogaeth a all fod yn fuddiol iddynt.

Yn ogystal â nodi ffyrdd o arbed arian, mae adrannau eraill o'r wefan costau byw newydd yn cynnwys tudalen ar ddigwyddiadau a gweithgareddau rhad neu am ddim y gall pobl eu mwynhau yn Abertawe. Mae rhestr o barciau a thraethau ymysg yr wybodaeth sydd ar gael, sy'n rhoi awgrymiadau ar leoedd lle y gall pobl fwynhau bod yn yr awyr agored.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw i weld yr holl gyngor a'r gefnogaeth sydd ar gael.

 

Close Dewis iaith