Toglo gwelededd dewislen symudol

Peiriannau gwerthu ysgytlaeth ffres yn cyrraedd canol y ddinas

Llaeth Beynon Dairy

Mae gan fusnes peiriant gwerthu ysgytlaeth ffres a gafodd sylw mawr ar draws y DU yn ystod y pandemig leoliad newydd yng nghanol dinas Abertawe.

Mae'r peiriannau gwerthu, a gynhelir gan gwmni Llaeth Beynon Dairy o'r Hendy, wedi'u lleoli yn ardal hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant ger gwaelod y bont newydd dros Oystermouth Road.

Mae'r busnes wedi rhentu'r safle oddi wrth Gyngor Abertawe ar sail dros dro, yn amodol ar adfywiad tymor hirach yr ardal.

Gall cwsmeriaid ddewis naill ai llaeth neu 12 blas o ysgytlaeth, y gellir eu harllwys mewn cwpanau cludfwyd am ddim neu mewn poteli gwydr ailddefnyddiadwy.

Dyma drydydd safle peiriannau gwerthu Llaeth Beynon Dairy, yn dilyn sefydlu'r unedau yn ardaloedd Tal-y-Clun yn yr Hendy a Heol y Ffowndri yn Rhydaman. Mae gan y cwmni beiriant gwerthu symudol bellach i'w ddefnyddio yn ystod digwyddiadau.

Meddai Ifan Beynon-Thomas o gwmni Llaeth Beynon Dairy, "Roeddem bob amser am gyflenwi'n uniongyrchol i'r cyhoedd, ond cyflymodd y pandemig ein prosesau meddwl oherwydd roedd y diffyg busnes yn y sector lletygarwch yn golygu ein bod yn gwastraffu miloedd o alwyni o laeth.

"Mae safleoedd ein peiriannau gwerthu yn yr Hendy a Rhydaman wedi gwneud yn dda iawn hyd yn hyn, ond roedden ni wastad eisiau gosod uned yn Abertawe hefyd gan mai dyma'r ddinas sydd agosaf atom. Mae cymaint o waith ailddatblygu cadarnhaol hefyd wedi digwydd yn Abertawe ac rydym am fod yn rhan ohono.

"Roedd Cyngor Abertawe mor gymwynasgar. Mae ein lleoliad mewn ardal addawol, felly mae'n lleoliad gwych.

"Byddai gennym hefyd ddiddordeb mewn archwilio lleoliadau tymor hirach posib yng nghanol y ddinas unwaith y bydd gwaith i ailddatblygu hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant ar waith."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae trawsnewidiad canol dinas Abertawe, sy'n werth £1 biliwn, yn creu swyddi a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer pobl leol, ond mae hefyd yn bwysig ein bod yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol gael eu sefydlu neu ehangu.

"Rydym yn falch iawn o groesawu Llaeth Beynon Dairy i ganol y ddinas, sy'n enghraifft o fusnes a ddangosodd gymaint o arloesedd a gwydnwch yn ystod cyfnod eithriadol o heriol."

Mae hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant ymhlith nifer o safleoedd a fydd yn cael eu hailddatblygu gan yr arbenigwyr adfywio arobryn, Urban Splash, dros y blynyddoedd nesaf. Mae safleoedd eraill yn cynnwys y Ganolfan Ddinesig ar lan y môr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023