Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynigion defnydd cymysg yn cael eu cefnogi ar gyfer canol y ddinas

Datgelwyd camau ar gyfer datblygiadau a buddsoddiadau canol dinas Abertawe ar gyfer y dyfodol fel cyrchfan defnydd cymysg gyda buddsoddiad mewn ffordd o fyw, profiadau teuluoedd a manwerthu er mwyn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr.

View of Swansea

View of Swansea

Gyda'r nod o helpu i greu canol y ddinas fwy bywiog a chynaliadwy yn y blynyddoedd i ddod, cyflwynwyd nifer o gynigion i adeiladu ar raglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd sydd eisoes ar waith.

Mae'r rhaglen fuddsoddi, a arweinir gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys datblygiad cam un Bae Copr gwerth £135m, gwaith trawsnewid gwerth £12m ar Ffordd y Brenin a'r prosiect gwerth £3m parhaus i wella Wind Street.

Gan gefnogi'r buddsoddiad hwn ymhellach, mae cynigion newydd Cyngor Abertawe'n cynnwys y canlynol:

  • Cadw hen adeilad Debenhams fel uned fanwerthu
  • Hybu masnach Marchnad Abertawe trwy wella'i mynedfeydd
  • Gwella golwg prif byrth ar y ffordd i mewn ac allan o ganol y ddinas gyda chelf gyhoeddus a rhagor o wyrddni
  • Cyflwyno marchnad bwyd stryd newydd sydd â chysylltiadau â Marchnad Abertawe a Chanolfan Siopa'r Cwadrant
  • Creu ardal gyhoeddus newydd i deuluoedd yn y gyffordd rhwng Oxford Street a Portland Place, gan gynnwys cyfleusterau chwarae a seddi

Mae'r cynigion diweddaraf yn dilyn adolygiad o ganol y ddinas a gomisiynwyd gan y cyngor sydd wedi canfod bod angen cymysgedd bywiog o ddefnyddiau er mwyn i ganol y ddinas ffynnu, creu swyddi newydd a denu rhagor o fuddsoddiad yn y dyfodol. Maent hefyd yn adeiladu ar gynlluniau sy'n cynnwys hwb cymunedol amlbwrpas yn hen adeilad BHS yng nghanol y ddinas a fydd yn darparu gwasanaethau fel llyfrgell a llety ystwyth ar gyfer sefydliadau.

Yn dilyn cymeradwyaeth gan Gabinet Cyngor Abertawe, bydd gwaith yn cael ei wneud yn awr i archwilio pob cynnig a ffynhonnell gyllid bosib ymhellach. Cynhelir ymgynghoriad hefyd â phreswylwyr a busnesau. 

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Dengys ymchwil fod ffactorau megis siopa ar-lein ac ar gyrion y dref yn golygu nad yw canol dinasoedd ar draws y DU, gan gynnwys Abertawe, yn gallu dibynnu'n llwyr ar fanwerthu fel yr arferent y 1970au a'r 1980au os ydynt am ffynnu.

"Mae angen iddynt ddod yn gyrchfannau y mae pobl yn dewis byw, gweithio a siopa ynddynt, yn ogystal â'u mwynhau. Gyrrwyd y newid hwn yn ei flaen gan y pandemig, sydd wedi arwain at fethiant nifer o fanwerthwyr cenedlaethol allweddol yng nghanol dinasoedd ledled y DU.

"Ond mae Abertawe mewn sefyllfa dda gan ein bod ni eisoes yn buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn nifer o gynlluniau mawr i amrywio canol ein dinas i fod yn gyrchfan defnydd cymysg sy'n cynnwys adloniant, hamdden, bwyd a diod, tai, gwyrddni a swyddfeydd, yn ogystal â manwerthu, er mwyn helpu i greu cyrchfan sy'n denu rhagor o ymwelwyr a gwariant.

"Mae canfyddiadau'r adolygiad yn cefnogi'r holl waith rydym wedi'i wneud hyd yn hyn, ond rydym am gael y gorau i'n preswylwyr a'n busnesau, a dyna pam mae nifer o gynigion pellach yn cael eu hystyried.

"Mae'n helpu i wneud yn fawr o'n marchnad dan do wych yng nghanol y ddinas, ac mae'r cynigion newydd hefyd yn cynnwys defnyddio adeiladau gwag unwaith eto, creu rhagor o fannau cyhoeddus a gweithgareddau i deuluoedd, cefnogi ein masnachwyr annibynnol a gwella sut mae canol y ddinas yn edrych.

"Cyn bo hir byddwn yn datgelu cynlluniau ar gyfer Sgwâr y Castell gwyrddach a mwy bywiog, a bydd y broses o drawsnewid Ffordd y Brenin yn fuan yn gwneud mwy fyth o gynnydd wrth adeiladu datblygiad swyddfeydd uwch-dechnoleg a fydd yn darparu lle ar gyfer 600 o swyddi."

Mae cynigion newydd eraill yn cynnwys gwella'r amgylchedd o amgylch Eglwys y Santes Fair, a chyflwyno golau gwell a nodweddion eraill i wella'r lonydd rhwng Wind Street a chanol y ddinas.

Cynhaliwyd adolygiad canol y ddinas gan RivingtonHark a BDP (Building Design Partnership).

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Hydref 2021