Toglo gwelededd dewislen symudol

DJ Mo yn cofio'i amser fel DJ yn difyrru clybwyr yn yr 80au.

Roedd Maurice Jones wrth ei fodd i gamu'n ôl mewn amser pan welodd e' hen far Cavalier Abertawe'n cael sylw gan y cyfryngau.

DJ Mo

DJ Mo

Mae gan y dyn sy'n 70 oed gysylltiad na ellir ei dorri â'r lleoliad a gafodd ei ailddarganfod pan ddechreuodd y cyngor ar brosiect adfywio newydd - 42 o flynyddoedd yn ôl, roedd yn un o'r DJs yno!

Byddai hysbysebion y wasg yn annog pobl i ddawnsio i'r gerddoriaeth fwgi, ffync ac enaid.

Meddai Maurice, "Mae'r newyddion am y Cavalier yr wythnos diwethaf wedi dod ag atgofion hapus yn eu hôl. Braf oedd gweld y lluniau gwych hynny o'r bar wedi'u rhewi mewn amser!"

Roedd y Cavalier yn rhan o hen floc BHS sydd bellach yn cael ei drawsnewid gan y cyngor yn hwb cyhoeddus i bobl gael mynediad at wasanaethau fel y llyfrgell a'r archifau. Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn helpu i adfywio canol y ddinas, gan ddenu ymwelwyr newydd i fusnesau.

Meddai aelod y cabinet, Elliot King, "Rwy'n falch iawn bod ein gwaith i ddarparu dyfodol gwych ar gyfer yr adeilad mawr hwn wedi dod ag atgofion hapus yn eu hôl."

Ein stori wreiddiol am y Cavalier https://www.abertawe.gov.uk/CavalierBar?lang=cy

Llun: Maurice Jones fel DJ Mo yn y Cavalier ym 1980.

 

 

Close Dewis iaith