Bywyd newydd cyffrous i adeilad hanesyddol yn Abertawe
Mae'n debyg y bydd dyfodol disglair i adeilad hanesyddol yng nghanol dinas Abertawe.


Mae adeiladau gwag y Mond wedi dod i feddiant cwmni lleol St Mary's Square Developments diolch i fenthyciad chwe ffigur a drefnwyd gyda chymorth Cyngor Abertawe.
Mae'r cwmni bellach yn gweithio ar greu cynlluniau ar gyfer yr adeilad sy'n sefyll ar gornel Union Street a Park Street.
Rhagwelir y bydd y llawr gwaelod yn cael ei gadw fel lle masnachol a'r lloriau eraill o bosib yn cael eu defnyddio fel mannau masnachol a llety.
Mae'r adeiledd sy'n un rhestredig Gradd 2 yn dyddio o 1911.
Meddai Cyfarwyddwr St Mary's Square Developments, Peter Loosmore, "Mae'n wych cael y cyfle i drawsnewid Adeiladau'r Mond. Mae ganddo lawer o nodweddion unigryw ac rydym yn bwriadu ystyried sut orau i'w defnyddio yn y dyfodol."
Mae gwaith trawsnewid arall yng nghanol y ddinas a gyflawnwyd gan Mr Loosmore yn cynnwys Adeiladau 'Kings' gyferbyn â'r Dragon Hotel, a Market Lofts rhwng y Kardomah a Stryd Rhydychen.
Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn elwa o'r defnydd newydd o Adeiladau'r Mond - yn union fel y byddant mewn adeiladau treftadaeth eraill gerllaw sydd wedi'u hadfywio'n llwyddiannus, gan gynnwys Neuadd Albert ac adeilad Theatr y Palace.
"Mae'r gwaith i adfywio Abertawe sydd wedi'i ysgogi gan y Cyngor, yn parhau."
Cafwyd y cyllid i gynorthwyo'r cwmni i brynu Adeiladau'r Mond drwy fenthyciad Trawsnewid Trefi a drefnwyd gan y Cyngor.
Bydd angen rhagor o gymorth ariannol ar gyfer y gwaith adfer; bydd y Cyngor yn parhau i gynghori'r perchennog ar hyn. Bydd y gwaith yn destun y broses gynllunio.
• Cymorth ariannol ar gyfer busnesau - Cyngor Abertawe
Llun Peter Loosmore a Rob Stewart yn Adeiladau'r Mond.