Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyllid ar gael unwaith eto i fusnesau Abertawe

Mae cyllid ar gael unwaith eto i roi hwb i fusnesau yn Abertawe.

Imsersifi

Imsersifi

Gellir cyflwyno ceisiadau yn awr ar gyfer grantiau cyn dechrau, twf, arloesedd a lleihau carbon diolch i Gyngor Abertawe drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae grantiau cyn dechrau o hyd at £10,000 ar gael i gefnogi entrepreneuriaid a chreu busnesau newydd er mwyn talu am gyfarpar, hyfforddiant, achrediad, marchnata a stoc.

Mae grantiau twf busnes o hyd at £50,000 hefyd ar gael i gefnogi cyflwyno cynnyrch neu wasanaethau newydd mewn busnesau a fyddai'n creu swydd neu'n eu diogelu. Gall gwariant cymwys ar gyfer y grant hwn gynnwys peirianwaith, hyfforddiant, systemau TG, telathrebu, celfi ac offer swyddfa.

Mae grantiau eraill y gellir cyflwyno cais amdanynt yn awr yn cynnwys grantiau arloesedd o hyd at £10,000 i helpu busnesau ddatblygu cynnyrch a phrosesau arloesol i wella twf a chystadleurwydd. Gallai'r cyllid hwn dalu am greu prototeipiau, costau patentau, ymchwil a datblygu, profi neu brawf o gysyniadau.

Mae grantiau lleihau carbon o hyd at £25,000 ar gael hefyd i leihau treuliant ynni a chostau cysylltiedig.

Mae'n rhaid i bob busnes sicrhau elfen o arian cyfatebol ar gyfer pob grant.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth, "Mae gennym gynifer o fusnesau gwych a phobl fusnes uchelgeisiol yn Abertawe, ond mae angen cymorth ariannol arnynt yn aml naill ai i helpu i ddatblygu eu syniadau neu i'w helpu i dyfu a chreu mwy o swyddi i bobl leol.

"Dyna pam rydym yn parhau i sicrhau bod cymorth busnes yn thema allweddol o'n dyraniad ni o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

"Mae'r casgliad diweddaraf hwn o grantiau'n dilyn rownd ariannu flaenorol a fu o fudd i ugeiniau o fusnesau ledled Abertawe."

Ewch i www.abertawe.gov.uk/ariannubusnesau am ragor o wybodaeth.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Ebrill 2025