Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i roi adborth ar ragor o welliannau i chwaraeon olwynog yn Abertawe

Bydd cyfle ar gael yn fuan i roi adborth ar gynlluniau am ragor o gyfleusterau chwaraeon olwynog wedi'u gwella yn Abertawe.

Skateboarding Swansea

Skateboarding Swansea

Mae'r cynlluniau'n cynnwys parc sglefrio gwell yn Ynystawe, cyfleuster beicio bach ym Mlaen-y-maes, cyfleuster sy'n canolbwyntio ar BMX yn Nhre-gŵyr a llwybr pwmpio yn Llandeilo Ferwallt.

Mae'r cynlluniau, sy'n cynnwys cydweithio agos gyda'r arbenigwyr yn Curve Studio, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £2.8m gan Gyngor Abertawe mewn cyfleusterau chwaraeon olwynog yn y ddinas.

Mae Curve Studio a'r cyngor wedi bod yn gweithio gyda grwpiau lleol i ddatblygu'r cynlluniau. Mae'r grwpiau sy'n rhan o'r gwaith yn cynnwys Prosiect Parc Sglefrio Llandeilo Ferwallt, yn ogystal â Pobl ac Evolve ym Mlaen-y-maes.

Trefnwyd y sesiynau ymgynghori canlynol er mwyn i bobl sy'n dwlu ar chwaraeon olwynog a phreswylwyr lleol weld y cynlluniau a mynegi eu barn.

  • Blaen-y-Maes - 4pm i 6pm ddydd Mercher 25 Mehefin yn Evolve Blaen-y-maes ar Portmead Avenue.
  • Elba ac Ynystawe - 7pm i 8pm nos Fercher 25 Mehefin yn Neuadd y Ddinas. Gofynnir i ymwelwyr fynd i'r brif dderbynfa lle byddant yn derbyn gwybodaeth am yr ystafell lle gynhelir yr ymgynghoriad. 
  • Llandeilo Ferwallt - 4pm i 6pm yng Nghanolfan Gymunedol Llandeilo Ferwallt ar Murton Green Road.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r gwelliannau a drefnwyd ar gyfer chwaraeon olwynog yn y pedair cymuned hyn yn rhan o fuddsoddiad mawr a fydd yn golygu ni fydd angen i bobl yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn Abertawe deithio dros ddwy filltir i gyrraedd cyfleuster sglefrfyrddio neu BMX o safon.

"Mae barn pobl sy'n dwlu ar chwaraeon olwynog a phreswylwyr lleol yn allweddol ar gyfer ein cynlluniau oherwydd mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ac yna'n creu cyfleusterau sy'n bodloni anghenion a dyheadau'r bobl hynny.

"Dyma pam rydym wedi trefnu'r sesiynau ymgynghori hyn, felly rydym yn annog cynifer o bobl â phosib i fod yn bresennol."

Mae parciau sglefrio mewn cymdogaethau sydd wedi'u gwella bellach ar agor i'w defnyddio ym Mharc Coed Bach ym Mhontarddulais a Pharc Melin Mynach yng Ngorseinon.

Mae safleoedd eraill sydd eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer gwelliannau i'w parciau sglefrio'n cynnwys sgwâr sglefrio ym Mharc Victoria a pharciau sglefrio yng nghymdogaeth Mynydd Newydd ym Mhen-lan a Chanolfan y Ffenics yn Townhill.

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer trac pwmpio newydd i feicwyr BMX newydd ac iau ym Melin Mynach, a bydd y trac pwmpio presennol yn Nyffryn Clun yn cael ei adnewyddu.

Bydd manylion safleoedd eraill i elwa'n cael eu cyhoeddi maes o law.

Mae'r buddsoddiad cyffredinol yn cynnwys cyllid gan aelodau'r ward, cronfa fuddsoddi'r gymuned, cynghorau cymuned a thref a Llywodraeth Cymru trwy grant teithio llesol.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Mehefin 2025