Toglo gwelededd dewislen symudol

Morgan Sindall wedi'i benodi i gyflwyno ysgol arbennig newydd Abertawe

Penodwyd contractwr i ddylunio ysgol arbennig newydd i Abertawe wrth i'r prosiect gyrraedd carreg filltir bwysig.

Abc blocks - generic education pic

Abc blocks - generic education pic

Bydd Morgan Sindall, ynghyd â Chyngor Abertawe, yn gweithio gyda llywodraethwyr, staff, disgyblion, rhieni/gofalwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb i sicrhau bod yr adeilad newydd yn diwallu anghenion y disgyblion.

Bydd y prosiect yn gwella cyfleusterau'n sylweddol ac yn ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn Abertawe.

Bydd y cwmni hefyd yn sicrhau caniatâd cynllunio ac yn paratoi'r safle oddi ar Mynydd Garnllwyd Road cyn gwneud y gwaith adeiladu.

Bydd yr ysgol newydd o'r radd flaenaf yn disodli Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-Bryn gyda chyfleusterau mwy a gwell ac mae wedi'i hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

O fis Medi 2025, bydd yr ysgolion hyn yn dod at ei gilydd dan un corff llywodraethu ac un pennaeth ac fe'i gelwir yn Ysgol Calon Lân. Bydd y ddau safle presennol yn parhau i fod ar agor, heb unrhyw darfu ar ddisgyblion, nes bod yr adeilad ysgol newydd wedi'i gwblhau.

Sesiwn holi ac ateb

Pam mae angen ysgol arbennig newydd yn Abertawe?

Mae gan Ysgol Crug Glas 55 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog ar hyn o bryd ac mae gan Ysgol Pen-y-Bryn 195 o leoedd i ddisgyblion ag anawsterau cymedrol i ddifrifol ac i ddisgyblion ag awtistiaeth ddifrifol.

Mae'r ddwy ysgol yn llawn ar hyn o bryd ac mae gan y ddwy adeiladau sy'n dyddio'n ôl i'r 1960au, nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer anghenion y dyfodol.

Bydd yr ysgol newydd yn dod â'r rhain at ei gilydd ar un safle, a bydd 100 o leoedd ychwanegol sy'n lleihau'r angen i rai disgyblion gael eu lleoli mewn ysgolion annibynnol a'r tu allan i'r sir.

Beth yw'r buddion i blant a phobl ifanc?

Bydd y cyfleusterau yn yr ysgol newydd yn welliant mawr ar y rhai sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ac yn fwy addas i anghenion dysgwyr.

Bydd y rhain yn cynnwys nodweddion fel ystafelloedd synhwyraidd, ystafelloedd therapi arbenigol, amgylcheddau dysgu allanol therapiwtig a phwll hydrotherapi.

Bydd pob disgybl yn elwa o'r amgylcheddau dysgu dan do ac awyr agored wedi'u gwella.

Beth yw'r buddion i staff?

Yn ogystal â mwynhau amgylcheddau addysgu modern a chyfoes, bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu staff.

Bydd gwell cyfleoedd ar gyfer gweithio amlasiantaeth gan na fydd dwy ysgol ar wahân mwyach.

Bydd cyllideb yr ysgol yn cael ei thargedu mewn ffordd sy'n fwy priodol ac effeithiol o ran y disgyblion, sy'n golygu bod arian yn cael ei wario ar addysg yn hytrach nag ar eitemau sy'n gysylltiedig â'r adeilad.

Beth yw'r buddion i breswylwyr Abertawe?

Bydd yn cynyddu nifer y lleoedd ysgol arbennig sydd ar gael i ddisgyblion yn yr ardal, sy'n golygu y gall mwy o ddisgyblion dderbyn eu haddysg yn Abertawe.

Beth fydd yn digwydd ym mis Medi pan fydd Ysgol Calon Lân yn cael ei ffurfio?

Bydd yr ysgol yn parhau i weithredu ar draws yr holl safleoedd presennol i ddechrau, a bydd strwythurau dosbarth ac athrawon yn aros yr un fath i raddau helaeth, er mwyn sicrhau cyn lleied â phosib o darfu ar ddisgyblion.

Bydd y pennaeth a'r corff llywodraethu newydd yn uno'r ddau grŵp staff a bydd ganddynt un gyllideb ysgol.

Bydd y corff llywodraethu dros dro yn dod yn gorff llywodraethu sengl Ysgol Calon Lân ac, ynghyd â disgyblion a staff, bydd yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu i ddatblygu cynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd.

Ni fydd unrhyw newid o ran trafnidiaeth i'r safleoedd ysgol presennol.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Gorffenaf 2025