Toglo gwelededd dewislen symudol

Campfa ysgol wedi'i hailwampio yn hybu ffitrwydd

Nawr mae hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddisgyblion a'r gymuned ehangach yn Nhreforys gadw'n heini ac yn actif diolch i waith mawr i uwchraddio campfa ysgol.

Morriston Gym (Oct 2022)

Morriston Gym (Oct 2022)

Roedd y neuadd, sy'n cael ei defnyddio ar y cyd gan Ysgol Gyfun Treforys a'r ganolfan hamdden gyfagos, wedi gweld dyddiau gwell ac roedd yn barod i gael ei hailwampio.

Gyda buddsoddiad o dros £120 mil gosodwyd llawr hollol newydd ac mae'r holl ardal wedi cael ei moderneiddio gan ei gwneud yn fwy addas ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon, dosbarthiadau ffitrwydd a gweithgareddau plant.

Mae Freedom Leisure, sy'n rheoli'r ganolfan ar ran Cyngor Abertawe, a'r ysgol wedi cyfrannu at y gwaith ac wedi sicrhau arian ychwanegol sylweddol gan Chwaraeon Cymru.

Meddai Martin Franklin, pennaeth Ysgol Gyfun Treforys, "Fel ysgol roeddem wrth ein boddau yn gweithio mewn partneriaeth â Freedom Leisure a Chwaraeon Cymru i ddarparu buddsoddiad mawr ei angen yng nghampfa ein hysgol.

Cyfrannodd Chwaraeon Cymru £80,000 tuag at y prosiect a meddai'r Prif Swyddog Gweithredol, Brian Davies, "Yn dilyn y gwelliannau hyn bydd y gampfa'n cael ei defnyddio llawer mwy, gan ddarparu ased go iawn i'r ysgol a'r gymuned leol."

Ychwanegodd Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Mae'n gyfleuster gwych arall i helpu i gadw pobl o bob oedran yn actif, yn heini ac yn iach."