Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn dechrau ar deyrnged MowbrayYard

Bydd gwaith yn dechrau mynd rhagddo cyn bo hir i adeiladu iard werdd newydd yng nghanol dinas Abertawe fel teyrnged i'r diweddar Huw Mowbray, swyddog Cyngor Abertawe poblogaidd ac uchel ei barch, y gwnaeth ei weledigaeth a'i ymroddiad helpu i drawsnewid tirwedd y ddinas.

Huw Mowbray and Mowbray Yard area

Huw Mowbray and Mowbray Yard area

Bydd y gwaith i adeiladu Mowbray Yard, a enwyd mewn teyrnged i Mr Mowbray a fu farw yn 2023 yn 59 oed, yn dechrau y mis hwn yn dilyn penodi Horan Construction Ltd fel y prif gontractwr.

Bydd yr iard yn cynnwys coed, planhigion a chelfi stryd newydd a bydd yn rhan o gyswllt newydd i gerddwyr rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.

Mae wedi'i gynllunio i fod yn lle croesawgar ac ymlaciol, a bydd yn cynnig gwyrddni a thawelwch yng nghanol y ddinas i bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y ddinas ac i'r rhai sy'n ymweld â hi.

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Stewart, "Rydym yn falch iawn o gadarnhau ein bod wedi penodi contractwr i gyflwyno Mowbray Yard, iard newydd a fydd yn deyrnged barhaol i Huw.

"Roedd ei ymroddiad, ei egni a'i weledigaeth wedi helpu i lywio llawer o brosiectau adfywio mwyaf arwyddocaol Abertawe yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n briodol bod y lle hwn yn dwyn ei enw.

"Bydd Mowbray's Yard yn gwella amgylchedd canol y ddinas ac yn adlewyrchu angerdd Huw dros greu mannau y gall pobl eu mwynhau ac ymfalchïo ynddynt."

Yn ystod ei yrfa hir a nodedig gyda Chyngor Abertawe, chwaraeodd Mr Mowbray, tad i ddau o blant, ran allweddol wrth gyflawni llawer o brosiectau adfywio nodedig y ddinas, gan gynnwys Stadiwm Swansea.com, Arena Abertawe a'r gwaith i ailwampio Wind Street.

Bydd Mowbray Yard yn cael ei hadeiladu yng nghefn datblygiad swyddfa newydd 71/72 Ffordd y Brenin y cyngor, a disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2024. Mae'n brosiect sy'n llunio rhan o raglen adfywio canol dinas ehangach Abertawe ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. 

Mae 80% o'r swyddfeydd yn 71/72 Ffordd y Brenin bellach wedi'u gosod, gyda channoedd o weithiwyr o gwmnïau gan gynnwys TUI a Futures First ar fin symud i mewn.

Cyhoeddir y tenantiaid eraill yn yr wythnosau nesaf.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Tachwedd 2025