Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith ar amddiffynfeydd môr y Mwmbwls i ddechrau ar y safle'n fuan

​​​​​​​Disgwylir i waith adeiladu ddechrau ar amddiffynfeydd môr pwysig newydd y Mwmbwls yn ystod yr wythnosau nesaf.

How Hennebont Gardens will look

How Hennebont Gardens will look

Bydd y prosiect, a arweinir gan Gyngor Abertawe, yn helpu i amddiffyn cartrefi, busnesau a phobl rhag lefelau môr cynyddol am ddegawdau i ddod. Bwriedir iddo hefyd wella'r Mwmbwls fel cyrchfan, gyda goleuadau, biniau a seddi newydd a chysylltiadau gwell i Mumbles Road.

Bydd yn rhaid cau rhannau o'r promenâd fesul cam yn ystod y gwaith y disgwylir iddo gymryd tua 18 mis. 

Cedwir mynediad i dai a busnesau drwy gydol cyfnod y gwaith ac, yn dilyn sgyrsiau rhwng y cyngor a'r prif gontractwr, bwriedir sicrhau na fydd gwaith drws nesaf i fusnesau sy'n ffinio â'r promenâd yn cael ei wneud yn ystod cyfnod brig y tymor twristiaeth.

Mae'n debygol y bydd sŵn adeiladu i'w glywed drwy'r holl brosiect er y bwriedir i hyn fod yn ystod y dydd lle bo'n bosib.

Disgwylir i'r prif gontractwr symud i'r safle'n fuan, gan sefydlu lle caeëdig i ddechrau yn agos at y promenâd a gwesty'r Oyster House.

Mae'r cyngor a'i gontractwyr yn bwriadu rhoi'r diweddaraf i'r cyhoedd a busnesau drwy sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb, cylchlythyrau, ar-lein ac yn y wasg.

Fis diwethaf roedd swyddogion y cyngor wedi rhoi'r diweddaraf i nifer o fusnesau sy'n agos at y promenâd a rhai grwpiau cymunedol. Bydd diweddariadau rheolaidd yn dilyn.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Rydym yn mynd i'r afael â chyflwr morglawdd y Mwmbwls a pherygl llifogydd tymor hir y gymuned.

"Bydd gwelliannau gweledol yn creu glannau gwyrddach, mwy cynaliadwy a mwy deniadol - ased i'r gymuned leol ac atyniad i ymwelwyr.

"Y nod yw bod yn sensitif i'r Mwmbwls fel cyrchfan glan môr i ymwelwyr wrth amddiffyn y bobl a'u heiddo."

Meddai Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, "Wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, rwy'n falch fy mod i'n gallu darparu 85% o'r cyllid i Gyngor Abertawe ar gyfer y gwaith hwn drwy ein Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol.

"Mae'n rhaid i gymunedau arfordirol addasu i lefelau môr cynyddol a bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud hynny, drwy wella'r amddiffyniad rhag llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer oddeutu 130 eiddo yn y Mwmbwls."

Mae rhai o'r amddiffynfeydd presennol mewn cyflwr gwael ac mewn perygl o ddioddef llifogydd. Disgwylir i'r lefel perygl llifogydd gynyddu yn y dyfodol oherwydd y cynnydd disgwyliedig yn lefel y môr.

Byddai diffyg gweithredu'n golygu y byddai nifer o gartrefi a busnesau mewn perygl o ddioddef llifogydd.

Lluniwyd y prosiect 1.2km - o lithrffordd Knab Rock i Sgwâr Ystumllwynarth - gyda chymorth ymgynghoriad cyhoeddus helaeth. Mae'r cynlluniau'n dangos bod mwy o le i gerddwyr a beicwyr rannu'r promenâd gyda gofal, caiff coed eu gwarchod a bydd rhagor o gyfleoedd i chwarae ac ymlacio. 

Cynlluniau llawn - www.bit.ly/MSDplanapp

Image: Sut y gallai rhan o bromenâd y Mwmbwls edrych cyn bo hir yn ardal Gerddi Hennebont.

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith