Toglo gwelededd dewislen symudol

Awyrluniau'n dangos cynnydd yng nghynllun y morglawdd amddiffynnol

Mae lluniau newydd a dynnwyd gan ddrôn yn dangos sut mae elfen allweddol o brosiect amddiffyniad arfordirol y Mwmbwls yn cael ei gosod yn llwyddiannus.

Drone shot of Mumbles sea defence work

Mae'r lluniau'n dangos bod peiliau dalennog gwydn a wnaed o ddur wedi'u gosod yng ngwely'r môr yn agos at y morglawdd, sydd wedi bodoli ers dros ganrif.

Yn fuan, bydd y peiliau'n rhan allweddol o sylfeini gwell y wal.

Maent yn cael eu gosod oddeutu 2m o dan lefel presennol y traeth. Pan fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau, ni fyddwch yn gallu eu gweld.

Pe byddant yn cael eu gosod ben wrth ben, byddai'r dalennau'n mesur oddeutu 6km o hyd. Gyda'i gilydd, maent yn pwyso oddeutu 1,000 tunnell.

Tynnwyd y lluniau fis diwethaf.

Mumbles sea defences - drone image June 2023 - 01
 
Mumbles sea defences - drone image June 2023 - 02
 
Mumbles sea defences - drone image June 2023 - 03
 
Mumbles sea defences - drone image June 2023 - 04
 
Drone shot of Mumbles sea defence work

Cyflwynir y prosiect amddiffyniad arfordirol gan y prif gontractwyr Knights Brown ar ran Cyngor Abertawe. Fe'i hariennir yn bennaf gan Lywodraeth Cymru ac fe'i dylunnir i ddiogelu'r cartrefi, y busnesau, yr atyniadau a safleoedd eraill rhag stormydd a lefelau môr cynyddol.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Gwnaed cynnydd go iawn ar y cynllun arwyddocaol hwn."

Bydd y gwaith yn cryfhau'r amddiffynfeydd ar hyd prom y Mwmbwls ar hyd pellter o oddeutu 1.2km.

Rhagor: www.mumblescps.co.uk