Cynllun amddiffyn rhag llifogydd arfordirol y Mwmbwls ar agor
Bydd cartrefi a busnesau yn y Mwmbwls yn Abertawe yn elwa ar well amddiffyniad rhag llifogydd arfordirol, ar ôl cwblhau prosiect amddiffyn arfordirol mawr.


Mae cynllun Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol y Mwmbwls, gwerth £26 miliwn, a gyflawnwyd gan Gyngor Abertawe a Knights Brown Construction, wedi trawsnewid glan y môr gyda morglawdd newydd, gweithfeydd cadarn i warchod yr arfordir a phromenâd estynedig, sy'n gwella mynediad i gerddwyr a beicwyr fel ei gilydd.
Bydd yn lleihau'r perygl o lifogydd arfordirol i 126 adeilad, gan gynnwys cartrefi a thros 50 o fusnesau ar hyd y rhan eiconig hwn o lannau Bae Abertawe.
Yn ddiweddar, agorodd Matt Bryer y siop eco-ymwybodol, Hiatus, sy'n darparu nwyddau steil o fyw yn y Mwmbwls.
Dywedodd y rheolwr, Lily Ella Westacott: "Mae ein siop â'i chefn at lan y môr - ac rydym wrth ein bodd bod y gwaith ar y prom wedi'i gwblhau.
"Mae'n welliant mawr i'r amgylchedd lleol ac rydym yn hyderus y bydd yn denu mwy o bobl i fwynhau Mwmbwls - ac i roi hwb i ni ac i'r busnesau cyfagos."
Mae cynllun y Mwmbwls yn rhan o raglen CRMP gwerth £291 miliwn Llywodraeth Cymru a sefydlwyd i ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Mae'r rhaglen wedi ariannu 15 cynllun ledled Cymru dros 5 mlynedd, sydd wedi bod o fudd i bron i 14,000 o adeiladau.
Wrth agor y cynllun, a dadorchuddio plac ar y promenâd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies, y gweinidog â chyfrifoldeb dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig:
"Yn ogystal ag ymateb i heriau parhaus newid yn yr hinsawdd trwy leihau'r perygl o lifogydd, bydd manteision niferus y cynllun hwn yn cael eu mwynhau gan y gymuned am genedlaethau i ddod.
"Mae diogelu ein cymunedau rhag canlyniadau trychinebus llifogydd ac erydu arfordirol o'r pwys mwyaf i mi yn y swydd hon, ac i'r Llywodraeth hon.
"Dyna pam rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn gwella seilwaith Cymru ar gyfer gwarchod yr arfordir dros y blynyddoedd diwethaf drwy ein Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol."
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Mae'r cynllun diogelu arfordirol gwych hwn yn hollbwysig i'r Mwmbwls ac Abertawe.
"Bydd yn diogelu un o gymunedau arfordirol mwyaf poblogaidd Cymru a bydd yn cryfhau'n ymhellach y diwydiant twristiaeth sydd eisoes yn werth tua £660 miliwn i economi Abertawe bob blwyddyn.
"Mae'r prosiect yn ganlyniad i lawer iawn o gynllunio, cydweithio, arbenigedd ac ymrwymiad i'r dyfodol.
"Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ato - a phawb sydd wedi byw gyda'r newidiadau i fywyd bob dydd yn sgil y cynllun peirianneg mawr hwn."
Darparodd Llywodraeth Cymru 85% o'r £26.5 miliwn o'r cyllid ar gyfer gwaith adeiladu drwy CRMP, gyda Chyngor Abertawe yn cyfrannu'r 15% arall. Hefyd, ariannodd Llywodraeth Cymru'r cam datblygu i gyd, gwerth £1.75 miliwn.