Cyfle i ddweud eich dweud am ddyfodol lleoliad allweddol yn y Mwmbwls
Mae pobl y Mwmbwls yn barod i ddweud eu dweud am ddyfodol ardal o dir ar lân y môr.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn ceisio barn pobl ynghylch sut i ddefnyddio ardal sydd wedi bod yn gartref i ddau gwrt tennis wyneb caled dros y blynyddoedd diwethaf.
Efallai y bydd rhai pobl am i'r tir rhwng gwesty'r Oyster House a Chlwb Bowls Ystumllwynarth barhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer cyrtiau tennis; efallai y bydd gan bobl eraill syniadau gwahanol a allai fod o fudd i'r Mwmbwls yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Bydd yr arolwg - gan berchnogion y tir, Cyngor Abertawe - yn ceisio deall sut hoffai preswylwyr y Mwmbwls, busnesau, sefydliadau ac ymwelwyr i'r tir gael ei ddefnyddio yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Bydd y syniadau hyn yn helpu i lywio unrhyw fuddsoddiad yn y safle yn y dyfodol. Byddai'r lawnt fowlio'n aros fel y mae.
Ar hyn o bryd o bryd, mae'r dau gwrt tennis yn gartref dros dro i dimau adeiladu sy'n gweithio ar brosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls. Disgwylir i'r prosiect gael ei gwblhau y flwyddyn nesaf (sylwer: 2025) pan roddir y cyrtiau yn ôl yn nwylo'r Cyngor.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Y flwyddyn nesaf, pan fydd y cynllun amddiffynfeydd môr wedi'i gwblhau a phan fydd y promenâd yn fwy gwyrdd, yn fwy hygyrch ac yn fwy atyniadol, disgwylir i'r cyrtiau gael eu rhôi yn ôl i ni.
"Ar ôl ymgysylltu â'r cyhoedd yn ddiweddar am yr amddiffynfeydd môr, rydym yn ymwybodol o amrywiaeth o safbwyntiau ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio lleoliad y cyrtiau er lles y gymuned, y preswylwyr lleol ac ymwelwyr yn ystod y blynyddoedd i ddod.
"Ni wneir penderfyniad ar ddyfodol y lleoliad tan i safbwyntiau preswylwyr y Mwmbwls, busnesau, sefydliadau ac ymwelwyr gael eu hystyried."
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl a sefydliadau fynegi barn am y ffordd orau o ddefnyddio lleoliad y cyrtiau tennis yn y dyfodol.
"Mae'n bwysig deall dyheadau'r gymuned o ran y safle er mwyn llywio'r camau nesaf. Ar ôl i ni ystyried pob ymateb, rydym yn bwriadu cyhoeddi cynllun cychwynnol i'r lleoliad - i'w drafod ymhellach â'r cyhoedd.
"Rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y safle hwn i ddweud ei ddweud drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad."
Bydd unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol yn amodol ar gyllid a chaniatâd cynllunio.
Ymgynghoriad ar-lein: www.bit.ly/MTsurvey24cym
Ar gyfer copïau caled o'r arolwg: Ebost - chwaraeonaciechyd@abertawe.gov.uk
Dyddiad cau i ymateb: 23:59, ddydd Llun, 6 Ionawr
Llun: Ardal Gerddi'r Mwmbwls cyn iddi ddod yn gartref dros dro i dimau adeiladu. Bydd preswylwyr, busnesau a sefydliadau lleol bellach yn gallu dweud eu dweud ynghylch sut dylid defnyddio ardal y cyrtiau tennis - ar ochr chwith y llun - yn y dyfodol.