Mwy o nodweddion newydd ar gyfer glan môr y Mwmbwls ar ei newydd wedd
Mae mwy o nodweddion newydd yn cael eu gosod ar eich prom newydd yn y Mwmbwls sydd ar agor i raddau helaeth ar gyfer y Pasg.


Mae contractwyr wedi dechrau gosod arwyneb lliw llwydfelyn sy'n treulio'n dda dros y tarmac du a osodwyd yn flaenorol.
Bydd yr arwyneb newydd, a fydd yn cael ei osod o Mumtaz i Verdis maes o law, yn adlewyrchu arwyneb parc poblogaidd Amy Dillwyn, y drws nesaf i Arena Swansea Building Society.
Mae dwy set o stribedi alwminiwm clyfar yn cael eu gosod cywastad ag arwyneb newydd y prom.
Mae'r rhain yn cydnabod hen Reilffordd y Mwmbwls, a gaewyd gan South Wales Transport Company ym 1960.
Mae'r ychwanegiadau yn rhan o Brosiect Amddiffyn Arfordir y Mwmbwls a fydd yn amddiffyn y gymuned rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd am flynyddoedd i ddod.
Arweinir y cynllun gan Gyngor Abertawe ac mae'n cael ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Y prif gontractwyr yw Knights Brown.
Meddai Andrew Stevens, Aelod Cabinet y cyngor, "Mae'r Mwmbwls i bawb, ac mae'n wych gweld yr holl waith yn dod at ei gilydd i uwchraddio'r prom.
"Hoffwn ddiolch i'r masnachwyr lleol, y sefydliadau eraill a'r preswylwyr am eu dealltwriaeth wrth i ni gyrraedd diwedd y gwaith ar gyfer y prosiect mawr hwn."
Mae'r arwyneb lliw llwydfelyn yn cael ei osod y drws nesaf i faes parcio Sgwâr Ystumllwynarth. Mae wedi'i gynllunio i fod yn ddeniadol ac yn galed, a'r nod yw y bydd yn cael ei ddefnyddio llawer gan gerddwyr a beicwyr.
Bydd y stribedi alwminiwm tonnog yn cael eu gosod yn agos at yr hen orsafoedd yn Southend ac yn Sgwâr Ystumllwynarth.
Mae gosodiadau newydd eraill ar y prom yn cynnwys celf ar thema'r Mwmbwls, coed, planhigion a llwyni a pholion lampau.
Mae elfennau newydd sydd i'w cyflwyno o hyd yn cynnwys gwaith tirlunio a gwaith ailfodelu ar y ddwy lithrfa.
Mae'r Mwmbwls ar agor ar gyfer gwyliau'r Pasg, a bydd llawer o'r prom ar agor hefyd.
Llun: Prom y Mwmbwls yn Sgwâr Ystumllwynarth.