Disgyblion yn creu murluniau ar gyfer safle datblygu Ffordd y Brenin
Mae Bouygues UK wedi croesawu grŵp o ddisgyblion o Ysgol Pentrehafod i safle 71/72 Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe.
Mae Bouygues UK wedi croesawu grŵp o ddisgyblion o Ysgol Pentrehafod i safle 71/72 Ffordd y Brenin yng nghanol dinas Abertawe.
Gwahoddwyd y disgyblion i weld dau furlun y gwnaethant helpu i'w creu, sy'n cael eu harddangos ar hysbysfyrddau'r safle adeiladu y mae Cyngor Abertawe'n ei ddatblygu'n swyddfeydd newydd a fydd yn darparu lle i 600 o swyddi.
Crëwyd y murluniau lliwgar gan Fresh Creative Co mewn cydweithrediad â Bouygues UK - prif gontractwr y cyngor ar gyfer y prosiect - a'r gymuned leol trwy'r prosiect Celf yn y Ddinas. Cawsant eu dylunio yn dilyn trafodaethau gyda grŵp o 60 o bobl ifanc fel rhan o raglen ymgysylltu o'r enw 'Cyfnewid Ysgolion', sef prosiect rhanbarthol sy'n archwilio'r gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol rhwng pobl ifanc ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Ysbrydolwyd y murluniau hyn gan y gweithdai hynny a rhoddodd yr ymweliad gyfle i'r disgyblion fynegi eu barn am y celfwaith terfynol, y lleoliad ac effaith bosib y celfwaith ar y gymuned leol.
Bydd 71/72 Ffordd y Brenin, sydd ar safle hen glwb nos Oceana, yn un di-garbon o ran ei weithrediad ac yn werth £32.6 miliwn y flwyddyn i economi Abertawe.
Bydd y cynllun y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn haf 2023 yn cynnwys 114,000 troedfedd sgwâr o arwynebedd llawr masnachol gyda chyfleoedd cydweithio a swyddfa hyblyg i fusnesau mewn sectorau fel y rhai technegol a digidol a'r diwydiannau creadigol. Bydd nodweddion eraill y datblygiad newydd yn cynnwys teras ar y to, llwybr newydd rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen a balconïau sy'n edrych dros ganol y ddinas a Bae Abertawe.
Aeth Nick Toulson o Bouygues UK a Hadley Hands â'r disgyblion ar daith o gwmpas y safle er mwyn iddynt weld y gwaith adeiladu'n mynd rhagddo ac i edrych ar y murluniau ar yr hysbysfyrddau, sy'n ymateb i faterion y mae'r plant yn teimlo'n gryf amdanynt, gan gynnwys hiliaeth a throseddau casineb.
Meddai Cynghorydd Gwerth Cymdeithasol Bouygues UK, Nick, "Roedd yn braf croesawu disgyblion Pentrehafod i safle Ffordd y Brenin. Yn ystod y daith, gwnaethom esbonio'r broses a'r cynnig ar gyfer defnydd yr adeilad fel swyddfa gymunedol a lleoliad gweithio ystwyth. Roedd y plant yn awyddus i wrando a dysgu amdano ac roeddent yn falch iawn o'r murluniau sydd gennym ar yr hysbysfyrddau. Gwnaethom hefyd drafod syniadau am ragor o gelfweithiau sy'n cyd-fynd â rhaglen Amrywiaeth a Chynhwysiad Bouygues UK ac edrychwn ymlaen at weld rhagor o waith yn fuan."
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mwynhaodd y disgyblion yn fawr yn ystod eu hymweliad ac roeddent yn dwlu ar y celfweithiau sy'n rhan o gynllun adeiladu a fydd yn creu lle i 600 o swyddi ac yn rhoi hwb pellach i economi Abertawe yn dilyn datblygiad ardal Bae Copr, sy'n cynnwys Arena Abertawe.
"Mae'r celfweithiau hyn yn ceisio dathlu amrywiaeth ac annog pobl i barchu eu cymunedau. Y gobaith yw y bydd pobl yn gweld y murluniau hyn ac yn teimlo bod ganddynt gysylltiad â'u hardal leol, gan fod y negeseuon yn hyrwyddo cymunedau heddychlon ac integredig."
Caiff cynllun 71/72 Ffordd y Brenin ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.