Toglo gwelededd dewislen symudol

Nadolig llai, mwy diogel

Rydyn ni gyd yn cael ein hannog i gymdeithasu'n llai a cheisio cyfyngu ar gwrdd ag eraill i helpu i frwydro yn erbyn amrywiolyn Omicron.

Christmas face mask

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno arweiniad newydd sy'n cynnwys y canlynol:

  • Ewch i gael eich brechu cyn gynted â phosib,
  • Gwnewch brawf llif unffordd cyn cymdeithasu,
  • Dylech gwrdd â phobl yn yr awyr agored a gadael bwlch rhwng cymdeithasu - gadewch o leiaf diwrnod rhwng digwyddiadau cymdeithasol,
  • Rhaid i bobl weithio o gartref ble bynnag y gallant wneud hynny.

O 27 Rhagfyr bydd rhaid i siopau, busnesau a gweithleoedd gyflwyno rheol cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a systemau unffordd.

Bydd clybiau nos yn cau ac efallai caiff digwyddiadau chwaraeon dan do eu gohirio. Caiff ymweliadau â chartrefi gofal eu newid hefyd.

Bydd gan ysgolion ddau ddiwrnod cynllunio ar ôl y Nadolig er mwyn caniatáu amser iddynt asesu lefelau staffio a rhoi mesurau ar waith i gefnogi dysgwyr. Yn Abertawe mae hyn yn golygu bydd diwrnod cyntaf y tymor yn dechrau ddydd Iau, 6 Ionawr 2022.

Bydd ysgolion yn sicrhau bod ganddynt gynlluniau ar waith i newid i ddysgu o bell os oes angen gwneud hynny. Bydd ysgolion uwchradd hefyd yn cynllunio ar gyfer y disgyblion hynny sydd ag arholiadau ym mis Ionawr

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022