Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr newydd i helpu parc sy'n ganrif oed yn Abertawe i ddenu ymwelwyr newydd

Mae gan barc poblogaidd yn Abertawe atyniad newydd a fydd yn helpu ymwelwyr i ddarganfod mwy am natur a dathlu'r byd naturiol.

Visitors to Morriston Park's nature trail

Visitors to Morriston Park's nature trail

Mae'r llwybr natur newydd yn gwneud Parc Treforys - sy'n fwy na chanrif oed ac sy'n dal i fod yng nghalon y gymuned - hyd yn oed yn fwy deniadol i bobl leol. 

Crëwyd y llwybr, a agorwyd yn swyddogol ddydd Mawrth 25 Gorffennaf, i gyd-fynd ag Wythnos Natur Cymru (Gorffennaf 22-30), gan Gyngor Abertawe, cynghorwyr lleol a grŵp gwirfoddol Cyfeillion Parc Treforys.

Mae'r llwybr wedi'i ariannu gan grant drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles yng Nghymru Llywodraeth Cymru a'i gyflwyno fel rhan o bartneriaeth ranbarthol o'r enw Cysylltu Seilwaith Gwyrdd De-orllewin Cymru sy'n gwella mannau gwyrdd.

Mae atyniadau'r parc yn cynnwys nodweddion coetir, pwll, dolydd, maes chwarae ac ardaloedd bywyd gwyllt gyda golygfeydd o Gwm Tawe. Mae'r llwybr yn amlygu sut y gall ymwelwyr weld adar, gwyrddni, ystlumod, pryfed a thrysorau naturiol eraill.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, a oedd yn bresennol ar gyfer y lansiad, "Rwy'n gobeithio y bydd y llwybr yn annog pobl i ymweld â rhannau o'r parc nad ydynt wedi ymweld â nhw o'r blaen.

"Bydd yn eu helpu i adnabod a deall nodweddion nad ydyn nhw efallai wedi sylwi arnyn nhw eisoes. 

"Wrth i'r cyngor fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ganiatáu i bobl fwynhau'r byd naturiol, gan helpu Abertawe i gyrraedd ei tharged sero net erbyn 2050.

"Mae hefyd yn wych, yn ystod yr argyfwng costau byw parhaus, fod gan bobl leol bellach atyniad arall am ddim i'w fwynhau ac i hybu eu lles."

Mae'r llwybr 800m o hyd yn cynnwys llwybrau tarmac a osodwyd yn flaenorol. Mae'n cynnwys panel croeso a chyfres o saith postyn gwybodaeth, y mae pob un yn cynnwys plac y gellir ei rwbio ar thema bywyd gwyllt a ffeithiau am amgylchedd naturiol yr ardal gyfagos.

Meddai Mary Jones, Cadeirydd y grŵp Cyfeillion, "Rydym wrth ein bodd bod y llwybr newydd hardd hwn wedi agor. Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi i sicrhau'r ychwanegiad rhagorol hwn at y parc.

"Mae'n ychwanegiad cyffrous at y parc; bydd y rheini sy'n cerdded ar hyd y llwybr yn darganfod ac yn dathlu natur.

"Mae'n addas i deuluoedd ac yn addas i bob oedran. Mae'n lle da i ymweld ag ef yn ystod gwyliau'r ysgol - edrychwn ymlaen at weld llawer o bobl yno!"

Mae llwybr natur newydd hefyd wedi'i gynllunio ar gyfer Coed Glyncollen, Ynysforgan.

Mwy

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Gorffenaf 2023