Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun i wneud y cyngor yn sero net yn mynd i gostio £187m

​​​​​​Mae disgwyl i Gyngor Abertawe gyflwyno cynllun a fydd yn ei helpu i fod yn garbon sero net erbyn 2030.

Council electric vehicle

Council electric vehicle

Mae disgwyl i gynllun drafft i gyrraedd y garreg filltir hon yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd gael ei drafod gan gabinet y cyngor ar 15 Rhagfyr.

Byddai'r cynllun yn costio tua £187m dros yr wyth mlynedd nesaf. Byddai'r cynllun yn arwain at y cyngor yn cyflawni cydbwysedd rhwng y nwyon tŷ gwydr y mae'n eu rhoi i mewn i'r atmosffer a'r rheini y mae'n eu tynnu allan - carbon sero net.

Cyllidebwyd eisoes ar gyfer tua £4m o'r ffigur. Byddai'r cyngor yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r cyllid arall ddod oddi wrth lywodraethau cenedlaethol ac o ddiweddariadau a gwelliannau'r cyngor i brosesau a chyfarpar sy'n cyflawni arbedion tymor hir.

Mae adroddiad gan aelod y cabinet a'r cyd-ddirprwy arweinydd Andrea Lewis yn amlinellu'r cynllun.

Mae hefyd yn manylu ar rywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud wrth i'r sefydliad weithio ar adferiad natur a'i nod i wneud Abertawe'n sero net erbyn 2050.

Meddai'r Cyng. Lewis,"Rydym yn ymrwymedig i leihau allyriadau a buddsoddi lle bo angen. Mae ein cynllun cyflawni 2030 sero net yn gam pwysig ar ein taith - ac mae'n amlinellu'r costau ariannol sylweddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith.

"Nid trethdalwyr yn unig ddylai dalu am y costau hynny. Bydd angen i lywodraethau cenedlaethol sicrhau bod digon o gyllid ar gael i gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen."

Mae Llywodraeth Cymru am gael sector cyhoeddus carbon niwtral ar draws y genedl erbyn 2030.

Bydd gostyngiadau mwyaf arwyddocaol y cyngor mewn allyriadau cyn 2030 yn cael eu cyflawni drwy welliannau i'w adeiladau a'r modd y cânt eu defnyddio, a gwelliannau i'w gerbydlu a sut y caiff ei ddefnyddio.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Rhagfyr 2022