Cynllun i wneud y cyngor yn sero net yn cael ei gymeradwyo
Bydd Cyngor Abertawe yn cyflwyno cynllun a fydd yn ei helpu i fod yn garbon sero net erbyn 2030.
Cafodd cynllun drafft i gyrraedd y garreg filltir hon yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ei gymeradwyo gan Gabinet y cyngor heddiw (sylwer: 15 Rhagfyr).
Gallai'r cynllun gostio tua £187m dros yr wyth mlynedd nesaf. Byddai'r cynllun yn arwain at y cyngor yn cyflawni cydbwysedd rhwng y nwyon tŷ gwydr y mae'n eu rhoi i mewn i'r atmosffer a'r rheini y mae'n eu tynnu allan - carbon sero net.
Cyllidebwyd eisoes ar gyfer tua £4m o'r ffigur. Byddai'r cyngor yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r cyllid arall ddod oddi wrth lywodraethau cenedlaethol ac o ddiweddariadau a gwelliannau'r cyngor i brosesau a chyfarpar sy'n cyflawni arbedion tymor hir.
Amlinellwyd y cynllun mewn adroddiad gan gyd-ddirprwy arweinydd y cyngor, Andrea Lewis.
Roedd hefyd yn manylu ar rywfaint o'r gwaith sy'n cael ei wneud eisoes wrth i'r sefydliad weithio ar adferiad natur a'i nod i wneud Abertawe'n sero net erbyn 2050.
Meddai'r Cyng. Lewis, "Mae ein cynllun cyflawni 2030 sero net yn gam pwysig ar ein taith - ac mae'n amlinellu'r costau ariannol sylweddol sy'n gysylltiedig â'r gwaith.
"Nid trethdalwyr yn unig ddylai dalu am y costau hynny. Bydd angen i'r ddwy lywodraeth genedlaethol sicrhau bod cyllid sylweddol ar gael i gyflwyno'r newidiadau sy'n ofynnol i ganiatáu i ni fodloni'r dyheadau ar gyfer 2030 a 2050."