Toglo gwelededd dewislen symudol

Busnesau'r ddinas i ennill sgiliau newydd fel rhan o ymgais i ddod yn sero net

​​​​​​​Bydd gweithluoedd ar draws Abertawe yn ennill sgiliau newydd i helpu i dorri allyriadau carbon.

Green SME

Green SME

Gwahoddir y gweithluoedd i anfon cynrychiolwyr ar gwrs am ddim i'w helpu i hyfforddi cydweithwyr i wthio tuag at darged sero net y ddinas.

Cynhelir y cwrs ar 25 Hydref gan Gyngor Abertawe mewn cydweithrediad â Future Clarity.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y cyd y cyngor, "Bydd y cwrs hwn yn ddefnyddiol i BBaChau ac eraill ar eu taith i ddatgarboneiddio."

Disgwylir i'r cwrs - Towards Carbon Zero: Train the Trainer - gael ei gynnal yn HQ Urban Kitchen, Orchard Street ar 25 Hydref am 9.30am. Gall gwesteion fod o'r gymuned fusnes neu'r trydydd sector.

Ei nod yw helpu BBaChau i gynllunio ar gyfer y dyfodol drwy ddangos i staff sut i hyfforddi cydweithwyr i arbed ynni, lleihau gwastraff a lleihau allyriadau carbon.

Mae'n rhan o gyfres o fentrau a arweinir gan y cyngor i helpu busnesau i ffynnu wrth i'r cyngor weithio tuag at ei nod o fod yn sero net erbyn 2030. Mae'r cyngor am i'r ddinas fod yn sero net erbyn 2050.

Ariennir y cwrs hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Gellir cadw lle am ddim yn: www.bit.ly/TTToct25

Close Dewis iaith