Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gosod technoleg celloedd bach i fynd i'r afael â thagfeydd rhwydwaith symudol yng nghanol y ddinas

Yn ddiweddar, cwblhaodd Cyngor Abertawe brosiect i osod technoleg celloedd bach a fydd yn darparu cysylltedd ffôn symudol mwy dibynadwy i bobl ar adegau prysur iawn yng nghanol dinas Abertawe.

swansea from the air1

swansea from the air1

Gan helpu i fynd i'r afael â thagfeydd rhwydwaith, mae'r safleoedd celloedd bach wedi'u cyflwyno i roi hwb i gapasiti'r rhwydwaith pan fo angen, fel y bydd pobl yn gallu defnyddio eu ffonau i wneud galwadau, anfon negeseuon neu fynd ar-lein pan fydd mwy o bobl yng nghanol y ddinas ar gyfer digwyddiadau fel gorymdaith y Nadolig a Sioe Awyr Cymru.

Mae'r prosiect, sy'n cael ei gyflwyno gan Gyngor Abertawe mewn partneriaeth â FreshwaveaVirgin Media O2, yn rhan o ymdrech ehangach i sicrhau bod Abertawe yn ddinas ddigidol flaenllaw.

Mae wedi cael ei arwain gan Hyrwyddwyr Digidol y Cyngor, sydd wedi gweithio'n agos gyda Freshwave a Virgin Media O2 ac adrannau eraill y cyngor i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar fusnesau ac ymwelwyr â chanol y ddinas tra oedd y gwaith yn cael ei wneud.

Mae'r prosiect yn rhan o Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n anelu at wella cysylltedd digidol ledled de-orllewin Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: "Mae pob un ohonon ni wedi bod mewn sefyllfaoedd lle rydyn ni mewn lleoedd prysur a methu'n lân ag anfon negeseuon, gwneud galwadau neu ddefnyddio'r rhyngrwyd ar ein ffonau gan fod gormod o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd.

"Nod y prosiect hwn yw helpu i fynd i'r afael â'r mater hwnnw i ddiwallu anghenion trigolion a busnesau.

Mae hefyd yn cyfrannu at ein hymrwymiad parhaus i sicrhau bod Abertawe yn ddinas ddatblygedig yn ddigidol a fydd yn helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad a swyddi yn y dyfodol, ynghyd â chefnogi arloesedd.

"Rydyn ni'n ddiolchgar i'n partneriaid, FreshWaveaVirgin Media O2, ac am y gefnogaeth gan Raglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Dywedodd Neil Barnes, Pennaeth Partneriaethau FreshWave: "Rydyn ni'n falch iawn ein bod wedi chwarae rhan yn y prosiect trawsnewidiol hwn.

"Bydd y gwell cysylltedd symudol, sy'n deillio o fuddsoddiad Virgin Media O2, yn dod â nifer o fanteision i'r gymuned ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer datblygiadau technolegol yn y dyfodol."

Dywedodd Pete Hollebon, Uwch-reolwr Cynllunio - Celloedd Bach yn yr Awyr Agored, Virgin Media O2: "Mae celloedd bach yn ffordd effeithiol o wella lled band rhwydwaith lleol ac yn chwarae rhan bwysig i'n galluogi i gadw i fyny â'r galw cynyddol gan gwsmeriaid. Bydd y safleoedd newydd hyn yn gwella dibynadwyedd ein rhwydwaith yn Abertawe ac yn darparu profiad gwell i gwsmeriaid.

"Byddwn yn buddsoddi £700m yn ein rhwydwaith symudol eleni drwy ein Cynllun Trawsnewid Symudol i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael profiad rhwydwaith eithriadol yn gyson ble bynnag y maen nhw a hyd yn oed ar yr adegau prysuraf."

Roedd y prosiect yn dilyn llofnodi cytundeb mynediad agored, gan ganiatáu i weithredwyr rhwydweithiau symudol ddefnyddio a rhannu asedau sy'n eiddo i'r cyngor ar gyfer eu seilwaith digidol. Dyma'r cytundeb cyntaf o'i fath yn Abertawe ac ardal ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ei chyfanrwydd.

Cysylltwch â'ch Hyrwyddwyr Digidol lleol i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn neu i wybod sut i gael gwell cysylltiad i'ch ardal.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mawrth 2025