Toglo gwelededd dewislen symudol

Ap newydd i helpu preswylwyr i arbed arian

Mae ap newydd yn cael ei ddatblygu i helpu preswylwyr Abertawe i arbed arian wrth gefnogi masnachwyr canol y ddinas a busnesau lleol.

Phone app

Phone app

Byddai'r ap gwobrwyo i breswylwyr, y gellir ei ddefnyddio mewn siopau a busnesau eraill fel bwytai a thafarndai i ddechrau, yn cynnwys gostyngiadau a chynllun ffyddlondeb, a bydd ar gael yn arbennig i breswylwyr Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe'n helpu i ariannu'r ap mewn partneriaeth ag Ardal Gwella Busnes Abertawe (AGB), a fydd yn rheoli ac yn rhedeg yr ap ar ran partneriaid a busnesau.

Bydd yr ap, y bwriedir ei lansio yn y gwanwyn, ar gael i'w lawrlwytho ar ffonau clyfar a thabledi. Gallai gynnwys cystadlaethau a chystadlaethau raffl yn ogystal ag arbedion a chynigion arbennig yn y dyfodol.

Byddai argymhellion yn seiliedig ar ddefnydd a lleoliad hefyd yn rhan o'r ap, yn ogystal â chodau QR ac argymhellion am gyrchfannau poblogaidd i ymwelwyr ar draws Abertawe gyfan.

Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr AGB Abertawe: "Mae busnesau'n dal i adfer o effaith economaidd y pandemig, felly mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn i ddenu mwy o siopwyr ac ymwelwyr er mwyn helpu i wella'r economi a bywiogrwydd yr ardal.

"Gan weithio mewn partneriaeth agos â Chyngor Abertawe, bwriedir i'r fenter newydd hon gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y ddinas yn ogystal â gwariant, drwy gynnig amrywiaeth o wobrau, cynlluniau ffyddlondeb a gostyngiadau i breswylwyr ar gyfer ein siopau, ein bwytai, ein tafarndai a busnesau eraill.

"Edrychwn ymlaen at ddatblygu'r ap newydd a chyffrous hwn i breswylwyr Abertawe fel y gall fod o fudd i gynifer o bobl leol a busnesau canol y ddinas â phosib."

Gallai'r ap hefyd gael ei gyflwyno i strydoedd mawr eraill yn y dyfodol, a chanolfannau siopa ardal ar draws y ddinas a'r sir.

Meddai Andrea Lewis, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, "Mae'r argyfwng costau byw'n golygu bod teuluoedd yn pryderu am sut y byddant yn cael deupen llinyn ynghyd felly rydym yma i'w cefnogi nhw a'n cymuned fusnes mewn unrhyw ffordd y gallwn.

"Ap yw'r ffordd hawsaf i breswylwyr ddefnyddio'r cynllun hwn gan y bydd y gwobrau a'r gostyngiadau'n newid yn barhaol, ond rydym yn cydnabod y bydd rhai pobl  efallai'n anghyfforddus yn defnyddio technoleg o'r math hwn. Dyma pam y byddwn ni wrth law i gefnogi'r preswylwyr hyn i gofrestru ar gyfer yr ap, ac i gynnig argymhellion ar sut i'w ddefnyddio orau."

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth,"Byddai lansiad yr ap yn y gwanwyn yn dilyn yr holl gymorth costau byw arall rydym yn ei ddarparu, gan gynnwys grantiau i helpu pobl i wresogi'u cartrefi y gaeaf hwn a gwefan siop dan yr unto rydym wedi'i llunio, sy'n cynnwys swm anferth o wybodaeth am ddigwyddiadau am ddim, cefnogaeth i ddod o hyd i waith a'r holl gynlluniau ariannu sydd ar gael i aelwydydd cymwys.

"Byddai camau pellach yr ap hefyd o fudd i fusnesau mewn rhannau eraill o'r ddinas fel strydoedd mawr a chanolfannau siopa cymunedol, a hefyd yn cynnig gostyngiadau arbennig ar amrywiaeth o wasanaethau a digwyddiadau yn y ddinas."

Ewch i https://www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw?lang=cy i weld yr holl gymorth costau byw sydd ar gael i breswylwyr.

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys cyngor ar arbed ynni a chyfeirio at ffynonellau arweiniad arbenigol ac annibynnol a all helpu i ddarparu cefnogaeth gyda rheoli dyledion ac iechyd meddwl.   

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 03 Tachwedd 2022