Toglo gwelededd dewislen symudol

Fideo newydd yn eich tywys o gwmpas Arena Abertawe

Mae fideo newydd yn dangos sut olwg sydd ar Arena Abertawe, sydd â lle i 3,500 o bobl, wrth i'r lleoliad trawiadol gynnal digwyddiadau prawf allweddol yr wythnos hon.

Seats at the arena

Seats at the arena

Mae'r fideo yn dangos nodweddion fel y cyntedd crand, yr awditoriwm rhyfeddol a'r ardaloedd VIP smart.

Mae Arena Abertawe'n un o nodweddion ardal cam un Bae Copr gwerth £135 miliwn sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'r rheolwr datblygu RivingtonHark. Buckingham Group Contracting Ltd sy'n arwain y gwaith adeiladu.

Cynhelir y digwyddiadau prawf, sy'n cynnwys bandiau lleol, yn yr arena nos Wener a dydd Sadwrn er mwyn profi'r holl agweddau ar y lleoliad cyn iddo agor ym mis Mawrth. Bydd hyn yn cynnwys gwacáu fel rhan o brofion diogelwch.

Deiliaid tocynnau prawf yn unig fydd yn cael mynd i mewn i'r arena ar gyfer y digwyddiadau prawf. Gofynnir i ddeiliaid tocynnau sy'n dod mewn car i barcio ym maes parcio aml-lawr Dewi Sant, maes parcio'r Cwadrant neu faes parcio Paxton Street. Bydd marsialiaid ar gael ym mhob un o'r lleoliadau hyn i gyfeirio deiliaid tocynnau i'r arena.

Gofynnir i ddeiliaid tocynnau sy'n cyrraedd mewn tacsi neu sy'n cerdded fynd i un o'r meysydd parcio hyn, lle bydd marsialiaid ar gael i'w cyfeirio i'r arena. Ni chaniateir unrhyw ollwng neu gasglu yn ardal yr arena ar Oystermouth Road neu yn Victoria Quay yn yr Ardal Forol. Bydd man gollwng a chasglu dynodedig ar gyfer tacsis hurio preifat ar gael ym maes parcio Paxton Street.

Disgwylir i gyntedd yr arena, y bont dirnod newydd dros Oystermouth Road, y parc arfordirol 1.1 erw a'r maes parcio â 350 o leoedd o dan y parc arfordirol agor i'r cyhoedd yn gynnar y mis nesaf. Bydd nodweddion eraill cam un Bae Copr, gan gynnwys y maes parcio newydd ar ochr Oystermouth Road sydd agosaf at y ddinas, y datblygiad fflatiau cyfagos a'r unedau busnes newydd ar Cupid Way yn agor dros y misoedd nesaf. Bydd maes parcio aml-lawr Dewi Sant yn aros ar agor ac yn gweithredu yn y cyfamser.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae ein lluniau newydd o'r tu mewn i'r arena'n dangos y cynnydd cyffrous a wnaed wrth i ni aros am agoriad y cyrchfan hamdden ac adloniant o'r radd flaenaf, Bae Copr, y mis nesaf.

"Mae Bae Copr yn gatalydd ar gyfer gwaith trawsnewid pellach i ganol y ddinas. Mae ei nodweddion allweddol - gan gynnwys yr arena, y parc arfordirol, y bont newydd a'r maes parcio o dan y parc arfordirol - wedi'u cyflawni ar gyfer pobl Abertawe yn ystod y pandemig; mae hyn yn llwyddiant sylweddol.

"Bydd yr holl nodweddion eraill yn cael eu hagor yn y misoedd nesaf, gan gynnwys busnesau lleol sy'n defnyddio unedau yn Cupid Way.

"Mae Bae Copr eisoes wedi creu cannoedd o swyddi a chyfleoedd i bobl leol, a bydd rhagor i ddod yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

"Mae'r cyrchfan yn rhan allweddol o raglen adfywio gwerth £1 biliwn yn Abertawe a fydd yn trawsnewid ein dinas yn un o ddinasoedd gorau'r DU i fyw, gweithio, astudio a gweithio ynddi ac i ymweld â hi."

Mae'r arena, a brydlesir gan y cyngor i weinyddwyr y lleoliad, Ambassador Theatre Group, yn cael ei hariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn. Ariennir y bont newydd dros Oystermouth Road yn rhannol gan y fenter Teithio Llesol trwy Lywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith