Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Amddiffynfeydd môr ar eu newydd wedd yn hybu hyder wrth i fusnesau newydd gyrraedd y Mwmbwls

Mae busnesau sy'n tyfu gwreiddiau newydd yn y Mwmbwls yn dod â hyder newydd i'r gymuned.

Mumbles New Businesses

Mumbles New Businesses

Mae nifer o fentrau'n brysur yn denu cwsmeriaid wrth i breswylwyr edrych ymlaen at ddiwedd prosiect gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn amddiffyn yr ardal rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart,  "Mae'n wych gweld busnesau newydd yn dangos hyder wrth i ni weithio tuag at orffen ein cynllun amddiffynfeydd môr yn y dyfodol agos.
Bydd prosiect y morglawdd yn gwarchod y gymuned am genedlaethau i ddod a bydd yn gwella'r profiad o ymweld â'r prom yn fawr.
"Wrth i'n gwaith fynd rhagddo, mae'r Mwmbwls, ei fusnesau a sefydliadau'n parhau ar agor a digwyddiadau'n cael eu cynnal yno o hyd, a gellir eu cyrraedd ar y ffordd, ar droed ac ar gefn beic.
Mae'r busnesau newydd yn cynnwys canolfan iechyd a ffitrwydd, siop dillad a nwyddau cyfoes ar gyfer yr awyr agored a swyddfa deithio. Mae busnesau eraill hefyd yn ymsefydlu yno.
Mae Jamie George yn creu campfa gyda chyfleusterau iechyd a ffitrwydd yn hen glwb rygbi'r Mwmbwls, yn agos i Erddi Southend.
Mae'n bwriadu agor yn yr wythnosau sy'n dod fel Movement. Gellir dod o hyd iddo ar Instagram @movementmumbles.
Meddai, "Rwy'n meddwl bod angen hyn yn y Mwmbwls. Rwy'n bwriadu cadw'r hen glwb rygbi fel lle ar gyfer y gymuned. 
"Bydd gwaith ar yr amddiffynfeydd môr yn gwella'r prom ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wasanaethu'r gymuned.
I helpu i greu Movement, derbyniodd Jamie grant twf y Gronfa Ffyniant Gyffredin gan y cyngor.
Mae Matt Bryer wedi agor siop ffordd o fyw ac eco-ymwybodol o'r enw Hiatus ar ochr Mumbles Road o Oyster Wharf. 
Meddai'r Rheolwr, Lily Ella Westacott ,"Mae'r siop â'i chefn at lan môr a'r prom; rydym hefyd yn agos i Langland a Caswell, ac yn denu pob math o bobl sy'n frwd am yr un pethau yr ydym ni'n dwlu arnynt: eiliadau boddhaus o oedi ar ein cyfer ein hunain a'r blaned; cefnogi diwylliannau syrffio, sglefrio a dringo; archwilio'r blaned rydym yn ei charu wrth ofalu amdani. Dim ond brandiau cynaliadwy sy'n rhannu ein gwerthoedd sy'n cael eu gwerthu gennym.
"Gyda'r gwaith i wella'r prom bron â dod i ben, rydym yn meddwl y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar gymuned fusnes y Mwmbwls.
Mae Sam Smith Travel yn fusnes sy'n tyfu ac agorwyd y siop yn Newton Road, y Mwmbwls ym mis Ionawr. 
Meddai'r rheolwr gwerthiannau a masnachol Suzanne Cumpston, "Rydym wedi cael croeso mawr gan bobl leol.
"Dewisom y Mwmbwls gan ein bod yn siop sy'n addas ar gyfer yr ardal, busnes teuluol, annibynnol o Gymru sy'n cynnig popeth o seibiannau penwythnos i ehediadau siarter preifat, ac o fordeithiau moethus i wyliau chwaraeon.
"Mae gan y Mwmbwls  ddyfodol mawr a phan fydd y prom ar ei newydd wedd yn agor yn llawn, rwy'n siŵr y bydd busnesau'n elwa."

Mae'r prosiect amddiffyn arfordir y Mwmbwls yn gwella'r amddiffynfeydd môr.
Bydd yn lleihau'r perygl o lifogydd i gartrefi a busnesau sy'n cael eu bygwth yn gynyddol gan y cynnydd yn lefel y môr yn sgîl newid yn yr hinsawdd.


Sicrhawyd arian gan Lywodraeth Cymru. Y prif gontractwyr yw Knights Brown.
 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Mawrth 2025