Delweddau syfrdanol yn dangos dyfodol newydd bywiog i Sgwâr y Castell
Mae argraffiadau arlunydd newydd wedi'u rhyddhau i ddangos sut y bydd Sgwâr y Castell Abertawe yn edrych unwaith y bydd y gwaith i'w weddnewid wedi'i gwblhau.


Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am y gwaith i drawsnewid y sgwâr, ac mae'r contractwr, Knights Brown, ar y safle ar hyn o bryd yn gwneud gwaith galluogi.
Bydd Sgwâr y Castell ar ei newydd wedd yn cynnwys:
- Ardal lle mae mwy na 40% ohoni wedi'i thirlunio â gwyrddni, coed a phlanhigion
- Dau adeilad newydd ar ffurf pafiliwn ar gyfer caffis, bwytai neu ardaloedd manwerthu
- Teras â tho gwyrdd gyda mynediad i'r cyhoedd
- Nodweddion dŵr rhyngweithiol, gan gynnwys ffynhonnau bach y gall plant chwarae ynddyn nhw
- Llwyfan tebyg i safle seindorf a fydd yn cynnwys sgrîn fawr ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus
- Ardaloedd eistedd newydd, palmentydd wedi'u huwchraddio a gwell hygyrchedd
Disgwylir i'r gwaith i ailwampio Sgwâr y Castell gael ei gwblhau erbyn diwedd 2026.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae'r delweddau newydd hyn yn rhoi syniad i ni o Sgwâr y Castell gwyrddach a mwy croesawgar rydyn ni'n ei greu ar gyfer Abertawe.
"Ers blynyddoedd, mae pobl wedi dweud wrthym eu bod am weld mwy o wyrddni, mwy o weithgareddau a mwy o resymau dros dreulio amser yn y sgwâr, a bydd y gwaith trawsnewid hwn yn cyflawni hynny.
"Bydd yn dod â mwy o fywyd yn ôl i ganol y ddinas, yn cefnogi ein busnesau lleol ac yn creu lle i gynnal digwyddiadau, ymlacio a mwynhau ysbryd cymuned.
"Bydd y sgwâr ar ei newydd wedd yn gwella hunaniaeth Abertawe fel canol y ddinas sy'n fodern ac yn wyrdd, gan barchu ei hanes.
"Gan fod y gwaith yn mynd rhagddo, gall preswylwyr ac ymwelwyr edrych ymlaen at y sgwâr ar ei newydd wedd a fydd yn ganolbwynt yn Abertawe unwaith eto."
Bydd y delweddau newydd yn cael eu cynnwys cyn bo hir ar hysbysfyrddau o gwmpas safle Sgwâr y Castell.
Mae busnesau yn ardal y sgwâr yn parhau i fod ar agor drwy gydol y gwaith gwella.
