Toglo gwelededd dewislen symudol

Contractwr newydd ar gyfer Bae Copr wedi'i benodi yn Abertawe

Penodwyd contractwr newydd i gwblhau gwaith anorffenedig yn ardal Bae Copr yn Abertawe.

Swansea Council Logo (landscape)

Swansea Council Logo (landscape)

Mae penodiad Cyngor Abertawe o Willmott Dixon yn dilyn y ffaith fod contractwr gwreiddiol y cynllun - Buckingham Group Ltd - yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae cynllun Bae Copr yn estyn o ardal hen safle Canolfan Siopa Dewi Sant ac ar draws y bont newydd dros Oystermouth Road i Arena Abertawe a'r parc arfordirol.

Mae'r rhan fwyaf o'r cynllun wedi'i gwblhau ac wedi bod ar agor ers gwanwyn y llynedd, felly mae'n hi'n fusnes fel arfer yn Arena Abertawe, maes parcio de Bae Copr, y parc arfordirol, The Green Room Bar and Kitchen a'r uned breswyl ar ochr ogleddol Oystermouth Road.

Mae gwaith anorffenedig yn cynnwys y maes parcio ar ochr ogleddol Oystermouth Road a pheth gwaith gorffen a datrys diffygion ar y safle. Disgwylir i waith ar y maes parcio hwn gael ei orffen yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, ac ymdrinnir â gwaith gorffen a datrys cyn gynted ag sy'n bosib.

Bydd maes parcio aml-lawr Dewi Sant - a glustnodwyd i gael ei ddinistrio - ar agor o hyd yn y cyfamser.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe, "Mae ardal Bae Copr yn ganolbwynt ar gyfer gwaith adfywio parhaus canol dinas Abertawe.

"Pan aeth ein contractwyr, Buckingham, i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar, roedd angen i ni weithredu'n gyflym i amddiffyn safbwynt y cyngor ac i gwblhau'r gwaith anorffenedig.

"Rydym yn falch o benodi Willmott Dixon, sef un o arbenigwyr arweiniol y wlad, i reoli'r gwaith adeiladu a sicrhau y gwneir y gwaith anorffenedig cyn cynted ag sy'n bosib.

"Caiff y gwaith gorffen a datrys ei orffen cyn gynted ag y bo modd, a disgwylir i'r gwaith i orffen y maes parcio gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2024.

"Mae'r trefniadau ariannol sydd gennym ar waith yn golygu nad ydym yn disgwyl y bydd y gwaith hwn yn arwain at gostau ychwanegol ar gyfer y cyngor neu'r trethdalwr."

Meddai Neal Stephens, Rheolwr Gyfarwyddwr ar gyfer Cymru a'r Gorllewin ar gyfer Willmott Dixon, "Mae'n drist gweld bod Buckingham Group a'i bartneriaid cadwyn cyflenwi'n mynd trwy gyfnod mor anodd.

"Mae gennym lawer o brofiad o weithio yn yr ardal leol ac rydym yn falch o weithio gyda Chyngor Abertawe i ddod â'r datblygiad gwych hwn i ben mewn ffordd addas."

Bydd Willmott Dixon yn bresennol ar y safle'n fuan.