Chwaraewyr criced i fwynhau cyfleusterau newydd ar leiniau a gynhelir gan y cyngor
Caiff cyfleusterau criced newydd eu gosod mewn dau leoliad chwarae prysur a gynhelir gan Gyngor Abertawe.


Bydd y caeau yn Ashleigh Road a Thir Canol yn cael dwy lain newydd heb laswellt yr un.
Bydd yn arwain at ganslo llai o gemau oherwydd y tywydd.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y cyngor, "Mae Abertawe'n ddinas sy'n dwlu ar chwaraeon a bydd yr ychwanegiadau newydd hyn o safon yn helpu criced i ffynnu yma am flynyddoedd i ddod."
Meddai Victoria Jones, rheolwr buddsoddi mewn cyfleusterau ar ran Criced Cymru, "Wrth i ni gyflwyno lleiniau newydd heb laswellt ledled Abertawe, rydym yn cynyddu capasiti yn ogystal â chreu cyfleoedd hanfodol ar gyfer criced i fenywod a merched, sy'n tyfu'n gyflym iawn.
"Mae'n destun cyffro i mi weld sut bydd y cyfleusterau newydd hyn yn effeithio'n gadarnhaol ar ein cymuned ac yn hyrwyddo cynhwysiant ymhellach yn y gamp."
Dechreuodd gwaith yr wythnos hon ar y ddwy lain gyntaf yn Abertawe, a gaiff eu hychwanegu at y lleiniau criced presennol yng Nghaeau Chwarae'r Brenin Siôr V, Ashleigh Road, oddi ar Mumbles Road.
Caiff dwy lain arall heb laswellt eu hychwanegu yn ystod yr wythnos nesaf yn Nhir Canol, Treforys. Bydd un yn disodli llain bresennol a bydd y llall yn ychwanegiad newydd.
Y bwriad yw y byddant oll ar gael i'w defnyddio yn ystod tymor 2025.
Caiff yr holl leiniau newydd eu hachredu gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).
Mae'r cyngor yn eu datblygu mewn partneriaeth â chorff llywodraethu'r gamp yng Nghymru, Criced Cymru, sydd wedi darparu'r cyllid drwy'r ECB a phrosiect cyfranogiad Everyone In cystadleuaeth The Hundred.
Ar ddiwedd tymor 2025, mae'r cyngor yn bwriadu gweithio gyda'r ddau gorff llywodraethu i wella'r arwynebau glaswellt presennol yng nghaeau chwarae Ashleigh Road, Tir Canol a Mynydd Newydd.
Disgwylir i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau erbyn tymor 2026.
Llun: Caeau chwarae Ashleigh Road.
Addaswyd diwethaf ar 01 Ebrill 2025