Prosiect treftadaeth newydd gwerth £9.4 miliwn y flwyddyn i Abertawe
Bydd prosiect mawr newydd a fydd yn gwella rhannau o Waith Copr yr Hafod-Morfa, Y Strand ac Amgueddfa Abertawe yn werth tua £9.4 miliwn y flwyddyn i economi'r ddinas.
Disgwylir i'r prosiect gwella Cwm Tawe Isaf, a arweinir gan Gyngor Abertawe, greu 69 o swyddi newydd wrth hefyd helpu i gefnogi mwy na 100 o swyddi presennol.
Mae'r prosiect, y bwriedir iddo ddathlu treftadaeth ddiwylliannol Abertawe, yn bosib diolch i gais llwyddiannus y cyngor am £20 miliwn o gyllid o gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU.
Mae'r prosiect yn cynnwys:
- Adfer hen adeilad y labordy yn y gwaith copr i greu bwyty a lleoedd bwyd a diod. Bydd buddsoddiad ym mheiriandai Musgrave a Vivian yn arwain at adeiladu lle caeedig newydd i greu atyniad treftadaeth i ymwelwyr a chaffi. Bydd y trac a'r locomotif yn sied V&S yn cael eu hailosod hefyd, caiff marchnadle ei chreu yn hen adeilad y Felin Rolio, a chyflwynir mannau cyhoeddus wedi'u tirlunio ar y safle i ymwelwyr.
- Caiff dau bontŵn eu gosod ar hyd afon Tawe a bydd unedau manwerthu bach yn cael eu creu i fasnachwyr lleol wrth y bwâu Fictoraidd ar Y Strand Gosodir lifft o'r Strand i'r Stryd Fawr a chaiff gwaith ei wneud i wella golwg a naws Y Strand yn agos i'w fwâu a'i dwneli. Bydd podiau manwerthu a gwell goleuadau yn cael eu gosod yn y twneli.
- Caiff estyniad newydd ei adeiladu yn Amgueddfa Abertawe - sy'n cael ei ddathlu'n eang fel yr amgueddfa hynaf yng Nghymru - i greu mwy o leoedd arddangos a dysgu ac orielau a dod â rhan o'r casgliad sydd wedi'i storio yn y Felin Rolio ar safle'r gwaith copr i leoliad cyhoeddus i'w harddangos. Mae cynlluniau amlinellol yn cynnwys syniadau ar gyfer ardaloedd cadwraeth a chasglu newydd ynghyd â mannau addysg, dysgu a chaffis a allai hefyd greu gwell cysylltiadau â'r man agored y tu ôl i Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gerllaw.
Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae gan Abertawe dreftadaeth ddiwylliannol falch felly mae angen i hanes y ddinas gael ei gadw a'i ddathlu er budd preswylwyr heddiw a rhai'r dyfodol.
"Gan adeiladu ar yr holl waith gwych a wnaed eisoes, bydd y prosiect hwn yn helpu i adrodd stori Abertawe hyd yn oed yn well yn y dyfodol, wrth hefyd greu rhagor o swyddi i bobl leol a rhagor o fannau i fusnesau lleol sefydlu neu ehangu eu busnes.
"Mae'r cynlluniau'n dangos yr hyn y gellir ei wneud er mwyn defnyddio adeiladau ac adeileddau hanesyddol mewn ffordd sy'n amddiffyn ein gorffennol yn ogystal â chreu cyfleoedd i bobl a chyfleusterau lleol a fydd yn rhoi hwb pellach i economi Abertawe."
Rhagwelir y bydd y rhaglen fuddsoddi gyffredinol yn denu oddeutu 8,350 o ymwelwyr dros nos a 31,200 o ymwelwyr yn ystod y dydd ychwanegol bob blwyddyn.
Fel rhan o'r prosiect, byddai dros 6,000 metr sgwâr o fannau cyhoeddus hefyd yn cael eu gwella.
Byddai agweddau'r prosiect sy'n ymwneud â'r gwaith copr yn dilyn y gwaith cyfredol sy'n cael ei wneud i ailwampio'r safle hanesyddol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan gwmni o Abertawe sef John Weavers Contractors ar ran Cyngor Abertawe a bydd yn cynnwys distyllfa a chanolfan ymwelwyr newydd Penderyn.
Galluogwyd y prosiect hwnnw, y disgwylir ei gwblhau eleni, drwy grant o £4 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru a £500,000 gan Lywodraeth Cymru.