Toglo gwelededd dewislen symudol

Awyrluniau newydd yn dangos cynnydd o ran y sylfeini ar safle swyddfeydd newydd

Mae'r datblygiad swyddfeydd newydd blaengar yn Abertawe'n gwneud cynnydd ar safle lle'r oedd dathlwyr gynt yn mynd i gael hwyl gyda'r hwyr.

Merge Kingsway

Merge Kingsway

Mae'r lluniau hyn yn dangos y cynnydd diweddar ar waith i osod sylfeini ar gyfer cynllun 71/72 Ffordd y Brenin ar hen safle clwb nos Oceana yng nghanol y ddinas.

Gan ddibynnu ar eich oedran, efallai y byddwch hefyd yn adnabod y safle fel Top Rank, Ritzy's neu Time and Envy.

Mae datblygiad swyddfeydd pum llawr bellach yn cael ei godi ar y safle, a fydd yn cynnwys lle i 600 o weithwyr o'r sectorau technoleg, digidol a chreadigol.

Bydd cynllun 71/72 Ffordd y Brenin, a ddatblygir gan Gyngor Abertawe, yn ddi-garbon o ran ei weithrediad a bydd yn werth £32.6 miliwn yn flwyddyn i economi'r ddinas.

Mae Bouygues UK, sef prif gontractwr y cyngor ar gyfer y prosiect, bellach yn paratoi i adeiladu ffrâm enfawr yr adeilad dros y misoedd i ddod, ac mae craeniau tyrog eisoes ar y safle er mwyn cynorthwyo.

Caiff cynllun 71/72 Ffordd y Brenin ei ariannu'n rhannol drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe sy'n werth £1.3 biliwn a'i gefnogi gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Yn Abertawe, gwyddom o ganlyniad i drafodaethau â busnesau fod prinder o'r math hwn o swyddfeydd hyblyg o ansawdd uchel, sy'n golygu bod rhai o'n doniau busnes ifanc wedi gorfod gadael y ddinas i sefydlu eu busnes mewn mannau eraill.

"Mae angen i ni wneud popeth y gallwn i fynd i'r afael â'r duedd honno oherwydd bod y busnesau hyn yn creu swyddi i bobl leol ac yn denu mwy o bobl i ganol ein dinas a mwy o wariant.

"Bydd y datblygiad hwn yn helpu i ddiwallu'r angen hwnnw, gan elwa o gysylltedd digidol o ansawdd uchel a lleoedd modern lle gall busnesau ryngweithio a chydweithio.

"Bydd y cynllun hwn yn ategu'r datblygiad 'adeilad byw' gerllaw sy'n cael ei arwain gan Hacer Developmentslle mae gwaith sylfaen hefyd yn cael ei wneud. Mae cynlluniau fel y rhain wedi cyfrannu at Abertawe'n cael ei henwi'n ddiweddar gan arbenigwyr annibynnol fel un o'r pum dinas werdd orau yn y DU i fuddsoddi ynddi."

Bydd y datblygiad, y disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2023, yn cynnwys to gwyrdd, paneli solar ar ben yr adeilad, coed ar bob lefel, gwres dan y llawr a systemau adfer gwres i leihau'r defnydd o ynni.

Bydd hefyd yn cynnwys system dal dŵr glaw a fydd yn helpu i gyflenwi dŵr i blanhigion a choed yn yr adeilad ac o'i gwmpas. Bydd y gwydro trwy'r holl ddatblygiad yn caniatáu i olau naturiol lifo i mewn i'r adeilad, ac felly'n lleihau faint o ynni a ddefnyddir ymhellach.

Meddai John Boughton, Rheolwr gyfarwyddwr Bouygues UK yng Nghymru a'r Gorllewin.

"Rydym wrth ein bodd bod y gwaith i adeiladu 71/72 Ffordd y Brenin - rhan allweddol o hanes ac isadeiledd Abertawe - yn datblygu cystal. Rydym yn falch y bydd yr adeilad gorffenedig yn un sero-net o ran ei weithrediad ac yn cynnwys nodweddion cynaliadwy, uchelgais y gobeithiwn ei gyflawni ar draws ein holl adeiladau.

"Mae galw mawr am swyddfeydd cynaliadwy o safon a bydd yr adeilad nodedig hwn yn helpu i adfywio'r ardal a'r gymuned leol. Bydd y cymysgedd o le ar gyfer swyddfeydd a lleoedd masnachol yn ased enfawr i'r ddinas."

Mae gwyrddni ar gyswllt newydd i gerddwyr rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen hefyd yn rhan o'r datblygiad.

Mae'r adeilad - a fydd yn agos at brif orsafoedd bysus a threnau'r ddinas - ar hyd llwybr teithio llesol, a gwnaed gwelliannau'n ddiweddar ar hyd Ffordd y Brenin i ddarparu rhodfeydd a llwybrau beicio ehangach.

Bydd safle bws hefyd y tu allan i'r adeilad.

Bydd yr 'adeilad byw' gerllaw sy'n cynnwys hen uned Woolworths ac adeiledd newydd 13 llawr gyfagos, y bwriedir ei gwblhau erbyn diwedd 2023, yn cynnwys waliau gwyrdd a thoeon gwyrdd, cyfleuster addysgol, unedau manwerthu, swyddfeydd, iard dirluniedig, paneli solar ar y to, storfa fatris a gerddi.

Bydd Grŵp Pobl yn rheoli 50 o fflatiau fforddiadwy sy'n rhan o'r cynllun.

Mae nodweddion eraill y cynllun yn cynnwys tŷ gwydr trefol arddull fferm a adeiladir dros bedwar llawr. Caiff planhigion a llysiau eu tyfu mewn dŵr a'u bwydo gan wastraff wedi'i bwmpio o danciau pysgod ar waelod yr adeilad.

 

 

Close Dewis iaith