Toglo gwelededd dewislen symudol

Adfywio yn helpu i ddenu busnesau a buddsoddiad

Mae rhaglen adfywio £1bn Abertawe yn gwneud y ddinas yn lle mwy deniadol i fuddsoddwyr a busnesau, yn ôl adroddiad newydd.

City centre from above (August 2022)

City centre from above (August 2022)

Dywed adroddiad 'Good Growth for Cities' 2024 PwC fod y cyfuniad o'r gwaith adfywio a phrosiectau eraill yn golygu bod gan Abertawe dyfodol ffyniannus o'i blaen.

Mae Arena Abertawe wedi agor, mae adeiladau fel Neuadd Albert a Theatr y Palace yn cael eu hadfywio ac mae gwaith gwella sylweddol wedi digwydd ar Wind Street a Ffordd y Brenin i roi hwb i'w golwg a'u hawyrgylch.

Mae cynllun swyddfeydd yn 71/72 Ffordd y Brenin bron â chael ei gwblhau hefyd ac mae'r sector preifat yn arwain ar gynlluniau fel Ardal y Dywysoges, Adeiladau 'Kings' a'r datblygiad adeilad byw.

Mae llawer mwy ar y ffordd hefyd, gan gynnwys gwesty newydd yn agos i'r arena, ailwampio Sgwâr y Castell, hwb sector cyhoeddus fel rhan o gam dau Bae Copr, ailddatblygu'r Ganolfan Ddinesig a hwb gwasanaethau cymunedol Y Storfa yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen.

Yn adroddiad PwC, mae'n dweud hefyd fod nifer y busnesau yn Abertawe wedi cynyddu'n raddol dros y pum mlynedd diwethaf a bod cyfraddau goroesi busnesau newydd yn mynd bob yn gam â gweddill Cymru a'r DU.

Mae'r adroddiad - sy'n defnyddio data hyd at 2022 - yn dweud bod swyddfeydd fforddiadwy, cyfradd cadw graddedigion uchel a chyflwyno cyllid y llywodraeth mewn ffordd effeithiol wedi helpu busnesau newydd i oroesi a thyfu.

Dengys data cyfredol fod Abertawe wedi symud ymlaen ymhellach ers yr amser hwnnw.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhanbarthol ac yn cwmpasu ardaloedd teithio i'r gwaith Abertawe hefyd, gan helpu i egluro heriau fel ansawdd aer sy'n cael eu hamlygu.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae nifer mawr o welliannau wedi digwydd yn Abertawe yn ddiweddar, lle mae rhaglen adfywio gwerth dros £1bn yn parhau.

"Mae Abertawe'n perfformio'n llawer gwell na'r disgwyl ac mae'r buddsoddiad cyhoeddus a phreifat sylweddol a welir yma ar raddfa nas gwelwyd ers degawdau lawer. Mae hyn yn golygu ein bod cyn bo hir yn disgwyl gweld twf economaidd sy'n llawer cyflymach na chyfartaledd y DU.

"Mae Abertawe hefyd yn ddinas fforddiadwy a chanddi ddwy brifysgol arweiniol, ysgolion sy'n perfformio'n dda, amgylchedd naturiol trawiadol, rhaglen ddigwyddiadau o'r safon uchaf a diwydiant twristiaeth sy'n werth dros £600m y flwyddyn i'r economi leol."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Medi 2024