Grwpiau chwaraeon a hamdden i dderbyn hwb i wella cyfleusterau'r cyngor
Disgwylir i Gyngor Abertawe gynnig cyfle i glybiau chwaraeon a chlybiau eraill adeiladu dyfodol cryf ar gyfer y clybiau a'u cefnogwyr.
Yr wythnos nesaf gallai Cabinet y cyngor gymeradwyo'r egwyddor o drosglwyddo rhai cyfleusterau i sefydliadau nid er elw lleol.
Meddai aelodau'r Cabinet y byddai hyn yn helpu i alluogi buddsoddi yn y cyfleusterau hyn a'u cynaladwyedd. Byddai hyn, yn ei dro, yn datblygu dinas iachach.
Meddai Cyd-Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, David Hopkins,"Yn aml, mae grwpiau lleol yn gofyn i brydlesu cyfleusterau chwaraeon a hamdden. Trwy reoli'r cyfleusterau eu hunain gallant ddatgloi buddsoddiad."
Meddai Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym wedi nodi nifer o safleoedd a lesddeiliaid arfaethedig a fyddai'n gallu gweithio gyda ni a'n polisi trosglwyddo asedau cymunedol."
Mae'r polisi trosglwyddo wedi llwyddo i hwyluso nifer o brosiectau yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r cyfleusterau a lesddeiliaid sydd newydd eu nodi - y fyddai gofyn iddynt dalu rhent rhad am brydles addas - yn cynnwys ardaloedd chwarae Ashlands/Banfields (yn y llun). Gallant fod yn destunprydles hir ar gyfer clwb pêl-droed Port Tennant Colts.
Bydd yr holl drosglwyddiadau'n destun polisi trosglwyddo asedau cymunedol y cyngor a gallant fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus.