Toglo gwelededd dewislen symudol

Help ar gael i breswylwyr Abertawe ar wefan costau byw

Trefnwyd bod gwefan popeth dan yr unto newydd ar gael i gefnogi miloedd lawer o deuluoedd yn Abertawe sydd am arbed arian yn ystod yr argyfwng costau byw.

Cost of living help webpage (Eng)

Cost of living help (Cym)

Mae'r wefan sef www.abertawe.gov.uk/helpcostaubyw a luniwyd gan Gyngor Abertawe, yn cynnwys gwybodaeth am daliadau y gall fod gan bobl leol hawl iddynt, yn ogystal ag awgrymiadau arbed ynni i breswylwyr sydd mewn dyled.

Mae'r wefan hefyd yn cynnwys swyddi gwag ac arweiniad i bobl sy'n chwilio am waith, ynghyd â gwybodaeth am ble y gall pobl gael help i ddod o hyd i fwyd ac eitemau hanfodol eraill.

Ers iddi fynd yn fyw ar ddechrau mis Medi, edrychwyd ar dudalennau'r wefan bron 35,000 o weithiau.

Mae adrannau eraill o'r wefan yn canolbwyntio ar help i rieni sy'n talu am gostau ysgol. Mae hyn yn cynnwys grantiau gwisg ysgol i deuluoedd ar incwm isel a gwybodaeth am gymhwyster ar gyfer prydau ysgol am ddim.

Mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol y cyngor allan mewn cymunedau ar draws y ddinas i roi gwybod i gynifer o bobl â phosib am y gefnogaeth hon.

Gellir defnyddio cyfrifiaduron a chael WiFi am ddim yn holl lyfrgelloedd y ddinas.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Gwyddwn y bydd llawer o bobl yn Abertawe yn pryderu am sut i gael deupen llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng costau byw, felly hoffem sicrhau ein holl breswylwyr ein bod yma i'w cefnogi - yn union fel yr oeddem yn ystod y pandemig.

"Mae'r holl wybodaeth y gall fod ei hangen ar bobl ar gael mewn un lle ar y wefan newydd, gan ei gwneud yn haws i breswylwyr gael gwybod am y gefnogaeth sydd wrth law i'w helpu o bosib i gael gafael ar daliadau neu arbed arian.

"Mae hyn yn dilyn y miliynau o bunnoedd a dalwyd gennym eisoes i gyfrifon banc miloedd o bobl yn y misoedd diweddar fel rhan o'r cynlluniau cymorth costau byw a thanwydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gynhelir gan y cyngor."

Mae'r wefan costau byw newydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau am ddim neu gost isel sydd ar ddod yn Abertawe, yn ogystal â manylion cynlluniau a ariennir gan y llywodraeth i helpu gyda gofal plant.

Mae dolenni i sefydliadau eraill sy'n darparu cyngor a chefnogaeth hefyd ar gael, yn ogystal â gwybodaeth am siop ailddefnyddio Trysorau'r Tip y cyngor yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet sy'n cynnig nwyddau trydanol, celfi, dillad, nwyddau cartref ac eitemau eraill am gost isel.